Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00256 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. |
Adran | Cerbydau Modur |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ewch ati i Feistroli Gwasanaethu ac Atgyweirio Modurol!
Ydych chi'n barod i roi hwb i’ch gyrfa yn y diwydiant modurol? Mae'r cwrs hwn wedi'i lunio i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau gwasanaethu ac atgyweirio hanfodol, gan ei wneud yn berffaith i'r rhai sy'n anelu at yrfa lwyddiannus neu'n dilyn rhaglenni Prentisiaeth Fodern Sylfaen.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Byddwch chi’n ennill gwybodaeth gynhwysfawr a sgiliau ymarferol ar draws systemau modurol allweddol:
● Systemau’r Injan: Camu i fyd cywrain systemau tanwydd, oeri, tanio, aer a gwacáu.
● Siasi: Meistroli’r system lywio, hongiad, y breciau, yr olwynion a'r teiars.
● Trawsyriant: Deall cydwyr, y bocs gêrs, a gyriadau terfynol.
● Systemau Trydanol: Archwilio batris, y systemau dechrau, gwefru a goleuo.
● Iechyd a Diogelwch Dysgu am arferion hanfodol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel.
Rhoi Hwb i’ch Sgiliau Craidd
Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch llwyddiant cyffredinol. Os nad ydych chi wedi cyflawni gradd C/4 mewn TGAU Mathemateg a Saesneg eto, byddwch chi'n cael sesiynau cymorth pwrpasol ochr yn ochr â'ch rhaglen alwedigaethol.
Yn barod i yrru eich dyfodol yn ei flaen?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r arbenigedd i chi er mwyn eich galluogi chi i ragori yn y sector modurol!

Rhaid cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddo gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.
Byddwch chi’n cael eich asesu drwy weithgareddau ymarferol a fydd yn cael eu cyflawni mewn amgylchedd gwaith realistig.
Byddwn ni’n profi gwybodaeth drwy aseiniadau ysgrifenedig byr a chwestiynau amlddewis ar-lein.

Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant cerbydau modur.
Gall y cwrs hwn arwain at rolau fel Technegydd Cerbydau VCQ Lefel 2/3, a gallech chi hefyd symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Cerbydau Ysgafn).
Yn barod i yrru eich dyfodol yn ei flaen? Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r arbenigedd i chi er mwyn eich galluogi chi i ragori yn y sector modurol!

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025