Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Mynediad i Addysg Uwch Lefel 3 - Gwaith Cymdeithasol, Proffesiynau Addysg, Cwnsela, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01268 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn, llawn amser sy’n cael ei gynnal o fis Medi i fis Mehefin (34 wythnos academaidd). Fel arfer, mae dosbarthiadau’n rhedeg dros bedwar diwrnod yr wythnos, o 9:15am-2:30pm. Rhan allweddol o’r rhaglen hon yw datblygu eich sgiliau rheoli amser personol. Bydd cynllunio’ch amser astudio yn y dosbarth ac yn annibynnol yn effeithiol yn hanfodol a bydd yn cefnogi’ch llwyddiant yn llawn drwy gydol y cwrs. |
Adran | , Cwnsela, Addysgu, Asesu ac Addysg |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Barod i gymryd eich cam nesaf tuag at radd prifysgol werth chweil a gyrfa gyffrous? Mae'r Diploma Mynediad i AU hwn wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi! Dewch i ennill y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn addysg uwch, gan agor drysau i ystod eang o feysydd y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Nod y diploma yw eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel prifysgol ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau craidd hanfodol. Gallwch chi archwilio modiwlau fel:
* Seicoleg
* Cymdeithaseg
* Hanes
* Cymraeg
* Cwnsela
Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol, gan gynnwys:
* Cyfathrebu
* Sgiliau Astudio
* Rhifedd
Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar y modiwlau penodol sy’n berthnasol i’ch taith dysgu.

TGAU Gradd C/4 mewn Saesneg neu Fathemateg, ac o leiaf Gradd D/3 yn y pwnc arall.
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.
Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol.
Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ oed i astudio’r cwrs hwn.
Anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion unigol i gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Addysgu yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd B/6 mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Efallai bydd myfyrwyr yn cael eu cynghori i ddilyn cwrs Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau eu cwrs Mynediad. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sefyll arholiad TGAU Mathemateg neu Saesneg.

Byddwch chi’n cyflawni’r diploma hwn trwy asesiad parhaus, yn bennaf trwy waith aseiniadau. Byddwch chi hefyd yn cael profiad gyda phrofion amserol neu sefyllfaoedd arholiad. Dyfernir credydau wrth i chi gwblhau pob uned astudio yn foddhaol.
I ennill eich Diploma Mynediad i AU, bydd angen i chi gyflawni 60 credyd, gan gynnwys nifer o gredydau gorfodol. Bydd eich credydau Lefel 3 yn cael eu graddio fel Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.

Mae’r cwrs hwn yn agor byd o bosibiliadau, gan eich galluogi i symud ymlaen i ystod eang o gyrsiau gradd a chyfleoedd cyflogaeth cyffrous. Gallech chi ddilyn graddau mewn:
* Addysgu
* Gwaith Cymdeithasol
* Cymraeg
* Seicoleg
* Troseddeg
* Cymdeithaseg
* Daearyddiaeth
* Hanes
* Newyddiaduraeth
A llawer rhagor!
* Addysgu
* Gwaith Cymdeithasol
* Cymraeg
* Seicoleg
* Troseddeg
* Cymdeithaseg
* Daearyddiaeth
* Hanes
* Newyddiaduraeth
A llawer rhagor!
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025