Lefel 2 Sgiliau Canolradd mewn Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gosod Trydan)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01551
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, lawn amser.
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Trydanol, Plymwaith
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Darganfyddwch Eich Dyfodol mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Y cwrs hwn yw eich cyflwyniad cyffrous i fyd deinamig adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth eang ac yn datblygu gwybodaeth hanfodol i roi hwb i'ch gyrfa yn y sector ffyniannus hwn.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:

Byddwch chi’n cwblhau chwe uned graidd orfodol, wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn i chi a'ch paratoi ar gyfer llwyddiant.

Mae’r rhain yn cynnwys:
● Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig: Ennill dealltwriaeth gadarn o sut mae'r amgylchedd adeiledig yn gweithio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
● Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig: Archwilio’r ystod amrywiol o grefftau sy'n ffurfio'r sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
● Cyflwyniad i Gylch Bywyd yr Amgylchedd Adeiledig: Deall taith prosiect adeiladu o'r dechrau i'r diwedd.
● Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig: Datblygu’r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw i ffynnu yn eich gyrfa.
● Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig: Dysgu am arferion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol hanfodol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel.
● Cyflwyniad i Dechnolegau sy’n Dod i’r Amlwg yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig: Neidio i'r datblygiadau diweddaraf sy'n llunio dyfodol adeiladu.

Yn ogystal â'r unedau craidd hyn, byddwch chi hefyd yn ennill sgiliau ymarferol mewn dau faes crefft, yn benodol Plymwaith a Gwresogi a Gosod Trydan.

Bydd y cymhwyster hwn yn eich arfogi â dealltwriaeth gynhwysfawr o'r sector, gan eich grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus am eich datblygiad proffesiynol eich hun a'ch llwybr gyrfa yn y dyfodol.

Barod i gymryd eich cam nesaf? Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau ymarferol i chi a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich gyrfa.


4 TGAU gyda Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D/3 neu uwch NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud eich gorau yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a bydd hynny’n gallu arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
I ennill y cymhwyster hwn, bydd angen i chi gwblhau’r asesiadau canlynol yn llwyddiannus:

● Prawf amlddewis wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n allanol.
● Prosiect sy’n ymdrin â dau faes crefft wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol.
● Trafodaeth dan arweiniad wedi’i gosod yn allanol, a’i marcio’n fewnol.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch chi i symud ymlaen yn uniongyrchol i brentisiaeth yn eich crefft ddewisol.

Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, os nad ydych chi wedi sicrhau prentisiaeth, efallai yr hoffech chi barhau â’ch taith ddysgu trwy gofrestru ar unrhyw un o’r cyrsiau canlynol:
● Sgiliau Uwch Lefel 2 mewn Gwasanaethau Adeiladau – Plymwaith a Gwresogi.
● Sgiliau Uwch Lefel 2 mewn Gwasanaethau Adeiladau – Gosod Trydan.

Barod i gymryd eich cam nesaf? Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau ymarferol i chi a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich gyrfa.


Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost