Diploma mewn Adeiladu (Pensaernïaeth/Tirfesur/Rheoli)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01473
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Cymhwyster llawn amser dwy flynedd yw hwn.
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Gwaith Adeiladu Technegol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yr Hyn Fyddwch Chi'n Ei Feistroli ar y Cwrs Hwn:

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol ar draws pob llwybr mewn adeiladu. Byddwch chi’n cael dealltwriaeth gadarn o sylfeini'r diwydiant a byddwch chi’n barod ar gyfer gyrfa werth chweil.

Byddwch chi’n archwilio pynciau craidd gorfodol, gan gynnwys:
● Deall Egwyddorion Adeiladu: Meithrin dealltwriaeth gadarn o sut mae egwyddorion adeiladu yn gweithio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
● Meistroli Dylunio Adeiladu: Datblygu eich sgiliau wrth greu dyluniadau adeiladu effeithiol ac arloesol.
● Archwilio Technoleg Adeiladu: Neidio i'r technolegau diweddaraf sy'n llunio'r diwydiant adeiladu.
● Sicrhau Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu: Dysgu am arferion iechyd a diogelwch hanfodol i greu amgylcheddau gwaith diogel.
● Dysgu Arolygu mewn Adeiladu: Darganfod technegau arolygu allweddol a ddefnyddir mewn amrywiol brosiectau adeiladu.
● Datblygu Manylu Graffigol mewn Adeiladu: Hogi eich galluoedd wrth greu cynrychioliadau graffigol manwl ar gyfer adeiladu.
● Llywio Rheoliadau a Rheolaeth Adeiladu: Deall y rheoliadau adeiladu a'r mesurau rheoli hanfodol mewn adeiladu.
● Technegau Mesur mewn Adeiladu Meistroli technegau mesur ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer prosiectau adeiladu llwyddiannus.
● Dod yn Hyfedr mewn Mesur Meintiau: Datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arolygu meintiau cywir, agwedd hanfodol ar y diwydiant.

Barod i gymryd eich cam nesaf yn y diwydiant adeiladu? Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau ymarferol i chi a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich gyrfa.

Fel arfer, bydd gofyn i ymgeiswyr fodloni un o’r canlynol:

● 5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg, pwnc Gwyddoniaeth a phwnc sy’n gofyn am ddefnyddio Saesneg/Cymraeg ysgrifenedig (Iaith Gyntaf).

● “Tystysgrif” BTEC neu “Diploma Cyntaf” mewn pwnc cysylltiedig.

● Gwybodaeth a/neu brofiad priodol a gafwyd yn y gwaith neu o gymwysterau cysylltiedig eraill.

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr â chymwysterau amgen priodol a myfyrwyr hŷn â phrofiad diwydiannol perthnasol a byddant yn cael eu hystyried yn ofalus.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Gorau po fwyaf yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallant arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
I ennill y cymhwyster hwn a dangos eich arbenigedd yn wirioneddol, byddwch chi’n cwblhau’r asesiadau canlynol yn llwyddiannus:

● Tri asesiad sy’n cael eu gosod a’u marcio’n allanol, a’u gwneud o dan amodau arholiad dros gyfnod o ddwy flynedd.
● Cyfres o asesiadau sy’n cael eu gosod yn fewnol wedi’u cynllunio i atgyfnerthu eich dysgu.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, byddwch chi’n agor drysau i gyfleoedd cyflogaeth cyffrous yn y diwydiant adeiladu.

Byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer swyddi fel:
● Technegydd Dylunio Adeiladu
● Goruchwyliwr Safle Adeiladu
● Technegydd Safle Adeiladu
● Peiriannydd Safle Adeiladu
● Technegydd Peirianneg Sifil
● Technegydd Pensaernïol
● Syrfëwr Adeiladau
● Goruchwyliwr Gwaith Adeiladu
● Technegydd Peirianneg Sifil/Strwythurol
● Goruchwyliwr Iechyd a Diogelwch Cynorthwyol
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost