Diploma lefel 3 Sylfaen mewn Busnes (Menter ac Entrepreneuriaeth)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00017
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cymhwyster hwn yn un flwyddyn o gymhwyster dwy flynedd, ond gellir ei astudio am flwyddyn a bod yn gymhwyster sy’n gyfwerth â 1.5 cymhwyster Safon Uwch. Ond mae’n well astudio’r cwrs dros y ddwy flynedd er mwyn cael mwy o ddyfnder a phrofiad yn y meysydd busnes.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i neidio i fyd cyffrous busnes? Ein Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Busnes (Menter ac Entrepreneuriaeth) yn Iâl yw’r cwrs i ddeall sut mae busnesau'n ffynnu, yn addasu ac yn arloesi. Mae'r rhaglen ddiddorol hon (blwyddyn o hyd) yn fan cychwyn perffaith ar gyfer eich taith entrepreneuraidd neu yrfa lwyddiannus mewn ystod eang o feysydd busnes.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Archwilio
Y diploma hwn yw blwyddyn gyntaf cwrs dwy flynedd gynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i roi cyflwyniad cadarn i chi i'r amgylchedd busnes. Byddwch yn astudio chwe uned ddiddorol gan ennill gwybodaeth hanfodol a sgiliau ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer unrhyw fenter fusnes:

* Creu Ymgyrchoedd Marchnata: Dysgu am y gelfyddyd a'r wyddoniaeth sydd y tu ôl i strategaethau marchnata llwyddiannus gan ddeall sut i gysylltu busnesau â'u cynulleidfa.
* Meistroli Cyllid Personol a Busnes: Dewch i ddeall ochr ariannol busnes o reoli eich arian eich hun i ddeall cyfrifon cwmni.
* Lansio Menter eich Hun: Nid damcaniaeth yn unig yw hyn! Byddwch chi'n rhoi eich gwybodaeth ar waith drwy gynllunio a lansio eich busnes eich hun gan ennill profiad ymarferol amhrisiadwy.
* Pŵer Menter Gymdeithasol: Darganfyddwch sut y gall busnesau gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas wrth gyflawni eich nodau.

Y tu hwnt i'r unedau busnes craidd byddwch hefyd yn cwblhau’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch Ôl-16. This integrated part of the program offers exciting opportunities to develop your personal and social awareness through the:

Mae'r rhan integredig hon o'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddatblygu eich ymwybyddiaeth bersonol a chymdeithasol drwy'r Her Fenter Fyd-eang a'r Her Gymunedol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg (Iaith Gyntaf)/Saesneg Iaith, NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Er y gellir cwblhau’r cymhwyster hwn mewn blwyddyn ac ennill cyfwerth â 1.5 o gymhwyster Safon Uwch rydym yn argymell yn gryf bod y dysgwr yn dilyn y cwrs dwy flynedd lawn. Mae hyn yn eich galluogi i edrych mewn mwy o fanylder ar feysydd busnes allweddol gan gyfoethogi eich profiad a’ch arbenigedd.

Rydym yn credu mewn dysgu ymarferol a hynny yn y byd go iawn. Byddwn ni’n asesu eich dysgu a’ch cyflawniad trwy gydol y cwrs gan ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau:

* Arholiadau: Dwy uned, “Datblygu Ymgyrch Marchnata” a “Cyllid Personol a Busnes” sy’n cael eu hasesu trwy arholiadau wedi’u gosod gan y corff dyfarnu BTEC Pearson

* Prosiectau Go Iawn: Mae’r pedair uned arall yn cael eu hasesu trwy brosiectau go iawn a chyffrous. Byddwch yn rhoi eich gwybodaeth ar waith drwy redeg eich busnes eich hun, datblygu sgiliau cymdeithasol hanfodol, meithrin hyder, gwella eich sgiliau negodi ac yn dysgu cyfathrebu’n effeithiol y tu allan i’ch cylchoedd arferol. Byddwch hefyd yn edrych ar sut y gall busnesau greu elw a bod yn gyfrifol yn amgylcheddol ac yn foesegol

* Asesiadau Amrywiol: Disgwyliwch aseiniadau ysgrifenedig yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig sydd wedi’u cynllunio i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd hanfodol. Rydym hefyd yn croesawu technegau asesu modern gan gynnwys podledu, trafodaethau un-i-un, fideos a chyflwyniadau gan ddarparu dull ymarferol a diddorol o ddangos eich dealltwriaeth.
Mae’r cyfleoedd yn anferthol! Gallai dysgwyr symud ymlaen ymhellach i ddilyn y Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Busnes (Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth) ar ôl cwblhau’r Diploma Sylfaen yn llwyddiannus (wedi llwyddo i ennill gradd Teilyngdod neu uwch).

Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Busnes (Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth. Mae’r Diploma Estynedig hwn yn gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch gan agor drysau i ystod eang o lwybrau cyffrous:

* Addysg Uwch: Parhewch â’ch taith academaidd gyda chyrsiau gradd mewn meysydd fel Rheoli Busnes, y Gyfraith a Chyfrifeg.

* Prentisiaethau Uwch: Ennill profiad gwerthfawr ar y swydd wrth barhau â’ch addysg

* Mynediad Uniongyrchol i Yrfaoedd: Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyfleoedd gyrfa mewn meysydd arbenigol ym myd busnes fel Cyllid, Adnoddau Dynol, Marchnata, Rheoli Gwerthiannau a Rheoli Manwerthu, Rheoli Digwyddiadau, Cyfryngau Cymdeithasol, Rheoli Chwaraeon a hyd yn oed dechrau eich busnes eich hun! Mae’r posibiliadau’n wirioneddol ddiddiwedd gan ymestyn i’r Gyfraith, Cyfrifeg, Rheolaeth Ariannol a chymaint mwy

* Cymwysterau Proffesiynol: Byddwch hefyd wedi’ch paratoi’n dda i ddilyn cymwysterau proffesiynol a gynigir gan gyrff mawreddog fel y Sefydliadau Siartredig Marchnata, Cyfrifwyr Rheoli a Datblygu Personél.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost