Diploma Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio (Cyn Gradd)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00168
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.



Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Coleg Cambria yn cynnig Diploma Lefel 3/4 amser llawn, blwyddyn o hyd mewn Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio (Cyn-radd). Nod y cwrs yw cynnig y cam sylweddol cyntaf i ddarpar artistiaid a dylunwyr.

Mae'r diploma Celf a Dylunio Sylfaen yn gwrs ysgogol a fydd yn eich paratoi ar gyfer addysg lefel gradd. O ddatblygu iaith bersonol i ddadansoddi potensial eich syniadau yn feirniadol, byddwch yn adeiladu sylfaen i ffynnu arni ym myd Celf a Dylunio. Byddwch yn cael eich annog i archwilio, arbrofi a chymryd risgiau, a bydd hyn i gyd yn ychwanegu at eich annibyniaeth feirniadol ac yn eich galluogi i ddangos dealltwriaeth lawn o'r safonau perthnasol sy'n ofynnol i allu symud ymlaen at Addysg Uwch. Byddwch yn dysgu trwy brosiectau, aseiniadau, cyflwyniadau a beirniadaethau grŵp i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cryf, a fydd yn cefnogi'r newid o addysg gyffredinol i addysg arbenigol mewn Celf a Dylunio.

Mae'r cwricwlwm yn archwilio ystod eang o brosesau 2D a 3D gan gynnwys lluniadu, celfyddyd gain, tecstilau, ffasiwn, graffeg, CAD a ffotograffiaeth i'ch helpu i ddewis maes astudio arbenigol. Mae rhan olaf y cwrs yn cynnwys cynnig, cynllunio, creu ac arddangos prosiect mawr. Bydd cyfleoedd i gydweithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr sy'n ymarfer eu gyrfa ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol trwy ymweliadau addysgol.

Nod Coleg Cambria yw eich helpu gyda’ch cynnydd o ran gyrfa neu Addysg Uwch. Mae’r holl gyrsiau yng Ngholeg Cambria yn rhoi’r cyfle i chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C/4 ar lefel TGAU, oni bai eich bod wedi cyflawni hynny eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd hefyd yn eich galluogi i symud ymlaen at addysg uwch.
5 TGAU graddau C/4 gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Gradd B/6 mewn pwnc sy’n gysylltiedig â Chelf a Dylunio.

Bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr gymwysterau Lefel A (gan gynnwys un mewn pwnc sy’n gysylltiedig â Chelf a Dylunio ar radd C/4 neu uwch) neu gymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 Celf a Dylunio cyfatebol.

Mae gofyn i bob ymgeisydd ymgymryd â phrosiect mynediad ac mae’n rhaid iddynt ei gwblhau a llwyddo ynddo.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n gadael y chweched dosbarth.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.
Mae’r Diploma Sylfaen yn gymhwyster Lefel 3 gydag Unedau 1-4 ar Lefel 3 ac Unedau 5-6 ar Lefel 4. Mae’r chwe uned yn hanfodol. Mae Unedau 5 a 6 sy’n cynnwys cynllunio, creu, cyflwyno ac adolygu Prosiect Mawr mewn Celf a Dylunio yn dangos eich dysgu o’r unedau eraill. Caiff yr unedau hyn eu graddio’n Llwyddiant, Teilyngdod, neu Ragoriaeth, gan bennu gradd gyffredinol eich cymhwyster, ac fe’u hasesir yn fewnol ac yn allanol.

Mae sefydliadau Addysg Uwch yn gwerthfawrogi’r Diploma Sylfaen Cyn-Radd Lefel 3/4 hwn mewn Celf a Dylunio yn fawr. Gall arwain at symud ymlaen i brifysgolion mawreddog y DU i astudio amrywiol gyrsiau Celf, Dylunio a Chyfryngau Creadigol fel Cerameg, Tecstilau, Celfyddyd Gain, Graffeg, Darlunio, Dylunio Cynnyrch, Ffasiwn, Addurno Mewnol neu Ffotograffiaeth fel rhai enghreifftiau. Mae’r cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost