City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Parciau, Gerddi a mannau Gwyrdd - Mynwentydd)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA11898
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gyflawni unedau, a byddan nhw’n cael eu hannog i weithio ar gyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n cymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 12 a 20 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.



Adran
Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’n galluogi’r dysgwr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector garddwriaeth. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno datblygu sgiliau galwedigaethol uwch a gwybodaeth dda o sgiliau garddwriaethol i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol yn benodol ar gyfer gweithwyr mynwentydd.
Bydd y cymhwyster yn cynnwys sgiliau a gwybodaeth fel y rhai sydd eu hangen ar gyfer:-
* Gweithiwr Mynwent
* Gofalwr Tir
* Gweithiwr Parciau neu’r Gwasanaethau Stryd
* Garddwr/Cynnal a Chadw Gerddi
* Tirluniwr

Mae'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy'n cyflawni tasgau arferol yn y gweithle, a gallent ddefnyddio'r cymhwyster hwn fel cam at gymwysterau uwch o'r math hwn ac ymlaen i brentisiaethau a llwybrau gyrfa perthnasol.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i ddatblygu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a Pherthnasoedd Gwaith Effeithiol.

Mae sgiliau galwedigaethol sy’n rhan o’r cymhwyster hwn yn cynnwys:-
* Paratoi a chloddio lleiniau claddu (cloddio beddau)
* Cynorthwyo gyda chladdedigaethau a’r gwaith o baratoi ar eu cyfer
* Datgladdu eirch a gweddillion
Gallai unedau eraill sy'n cael eu cynnwys yn yr unedau dewisol gynnwys:
* Sefydlu planhigion a glaswellt gan hadu a phlannu gan gynnwys clirio safleoedd, paratoi tir ac ôl-ofal
* Defnyddio a chynnal a chadw amrywiaeth o offer er enghraifft offer llaw nad ydynt wedi'u pweru, offer llaw wedi'u pweru, offer wedi'u pweru a reolir gan bobl ar droed, naddwyr a/neu beiriannau rhwygo ac offer y gellir eu gyrru
* Cynnal a chadw planhigion a mannau glaswelltog gan gynnwys tocio a thorri, rheoli llystyfiant diangen, adnabod a rheoli plâu, afiechydon ac anhwylderau
* Adeiladu a chynnal a chadw ystod o addurniadau tirwedd caled fel addurniadau dŵr, ardaloedd palmantog a strwythurau

Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer y tasgau, dangos arfer gweithio’n ddiogel bob amser a gweithio i sicrhau eu bod yn amddiffyn yr amgylchedd gan leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i gyflawn i’r gwaith.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Mae’r cymhwyster hwn yn Ddiploma sy’n gofyn am gyflawni 37 credyd; 18 o’r unedau gorfodol ac o leiaf 19 credyd o’r unedau dewisol.
Mae dysgwyr 16 oed neu’n hŷn yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau gan dystion
Mae credydau o ddysgu blaenorol hefyd yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Mae’n bosib defnyddio’r cymhwyster fel cam agosach at lefel uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn sefyllfa i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.

Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.



Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost