Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Parciau, Gerddi a Mannau Gwyrdd)
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA11908 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 12 a 20 mis. |
Adran | Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, meithrin ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu symud ymlaen mewn gyrfa yn y sector garddwriaeth, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol uchel a gwybodaeth dda am ystod eang o sgiliau garddwriaethol sy’n briodol i gymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
*Lledaenu neu gynhyrchu planhigion (meithrinfa)
*Cynhyrchu cnydau bwyd masnachol (Salad, ffrwythau, llysiau)
*Cynnyrch sy’n cael ei gefnogi neu ei rannu gan y gymuned
*Canolfan arddio / man manwerthu
*Cyfanwerthu neu ddosbarthu cnydau
*Cynhyrchu’n organig
*Contractwr yn darparu gwasanaethau i’r sector
Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud tasgau arferol yn y gweithle ac fe allent ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol.
Mae sgiliau galwedigaethol yn y cymhwyster yn cynnwys:-
*Defnyddio a chynnal ystod o offer fel offer di-bŵer ac offer llaw â phŵer, offer â phŵer a reolir â’r traed, naddwyr a/neu beiriannau rhwygo
*Paratoi a gweithredu tractor ac ategolion, cynnal offer a pheiriannau
*Tyfu, cynhaeafu a chludo cnydau
*Clirio safleoedd a pharatoi cyfrwng tyfu (gan gynnwys pridd) ar gyfer sefydlu cnydau
*Sefydlu cnydau ar gyfer cyfrwng tyfu (gan gynnwys pridd)
*Cynnal tyfiant cnydau i gynnwys defnyddio maethynnau, dwr, twf cystadleuol a phla a chlefydon.
*Cynaeafu, casglu a dosbarthu cynnyrch
*Lledaenu drwy ddulliau hadu a thyfiannol i gynnwys casglu deunydd planhigion ac ôl-ofal.
*Darparu gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid
*Rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau a phlanhigion sy’n cael eu gwarchod
Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.
Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.
Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma yw’r cymhwyster hwn, lle bo angen cyflawni 37 credyd; 21 o’r unedau gorfodol ac 16 credyd arall o’r unedau dewisol.

Caiff dysgwyr addas 16 oed a hŷn eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion
Mae credydau o ddysgu blaenorol hefyd yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Mae’n bosib defnyddio’r cymhwyster fel cam agosach at lefel uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol yn y Gwaith
diploma
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Tystysgrif Amgylcheddol NEBOSH
Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Agored Cymru Lefel 4 Diploma mewn Garddwriaeth yn Seiliedig ar Waith
certificate