City & Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA13329
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Tua 15-18 mis
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mae’r cymhwyster Ymarfer (Oedolion) yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer mewn cyflogaeth. Bydd o ddiddordeb i ddysgwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau cynorthwyo yn y cartref, gofal preswyl, darpariaeth anabledd dysgu yn cynnwys gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned.

Bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod nhw’n:
*Deall a gweithredu’r egwyddorion a’r gwerthoedd yn ymarferol sy’n ategu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
*Deall a chymhwyso ymagweddau sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn ymarferol
*Hyrwyddo a chynorthwyo arferion effeithiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
*Yn ymwybodol o bolisïau allweddol o fewn y sector a deall sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau
*Gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr ac ystod o weithwyr proffesiynol
*Gweithredu ystod o dechnegau datrys problemau gan adlewyrchu ar ymarfer i wella’n barhaus ac i ddefnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy’n briodol i’w rôl.
Mae’r cymhwyster ar gyfer unigolion sydd wedi’u cyflogi mewn sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar oedolion. Mae’n addas ar gyfer;
*dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Craidd yn llwyddiannus
*dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Ymarfer (Oedolion) yn llwyddiannus
*dysgwyr sy’n cefnogi datblygiad staff eraill
Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu trwy weithio mewn partneriaeth agos rhwng y dysgwr, rheolwr a’r aseswr. Y prif ddulliau asesu ar gyfer y cymhwyster hwn yw cyfres o dasgau strwythuredig wedi’u cynllunio sy’n cynnwys:
*cofnod adfyfyriol
*portffolio o dystiolaeth i gynnwys dogfennau’r gweithle
*ffurflenni cynllunio
*cofnodion y gweithle
*cofnodion arsylwi arferion gwaith
*cofnodion adolygu gweithgaredd
*trafodaeth dan arweiniad yr aseswr

Mae cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i weithio’n fwy annibynnol ac i gael mwy o gyfrifoldeb fel Gweithiwr Gofal Uwch cymwys (Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol).
Bydd hefyd yn helpu dysgwyr sydd angen gwneud cais i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r cymhwyster yn darparu gwybodaeth a chymhwysedd priodol i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen at:

*Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Os bydd y dysgwr yn newid i rôl fwy uwch yna byddan nhw o bosib yn gallu symud ymlaen i gwblhau:

*Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Am gostau cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost