Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01824 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd, sy’n cael ei gyflwyno trwy ddull dysg gyfunol. Bydd y cwrs yn cynnwys nodweddion gorau astudio ar y safle ac ar-lein. * Dysgu hyblyg: Bydd gennych chi sesiynau wyneb yn wyneb bob dydd Llun rhwng 9:15am a 6:30pm ar safle Iâl. * Astudio ar-lein cyfleus: Bydd gweddill eich astudiaethau yn cael eu cwblhau ar-lein, gan roi’r hyblygrwydd i chi ei gwblhau ar amser sy’n gweddu i’ch amserlen yn ystod yr wythnos. Eich llwyddiant ydy ein blaenoriaeth! Mae rheoli amser personol yn effeithiol yn allweddol i’r rhaglen hon. Byddwn ni’n eich annog i gynllunio eich amser astudio annibynnol ac ar-lein i gefnogi eich taith dysgu. |
Adran | , Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl |
Dyddiad Dechrau | 12 Jan 2026 |
Dyddiad gorffen | 11 Dec 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl a dechrau gyrfa werth chweil ym maes gofal iechyd? Mae'r cwrs Diploma Mynediad i Addysg Uwch llawn amser, blwyddyn o hyd hwn wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer astudio yn y brifysgol, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous mewn nyrsio, bydwreigiaeth, therapi galwedigaethol a phroffesiynau iechyd cynghreiriol eraill.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Nod y diploma ydy rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel prifysgol ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau craidd hanfodol. Gallwch chi archwilio modiwlau fel:
* Deall pynciau gofal iechyd allweddol: Darganfod meysydd diddorol fel Anatomeg a Ffisioleg a Chymdeithaseg Iechyd.
* Adeiladu sgiliau craidd hanfodol: Gwella eich sgiliau cyfathrebu ac astudio, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y brifysgol a thu hwnt.
Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol, gan gynnwys:
* Cyfathrebu
* Sgiliau Astudio
* Rhifedd
Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar y modiwlau penodol sy’n berthnasol i’ch taith dysgu.

Gradd C/4 mewn TGAU Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg, gyda gradd D/3 o leiaf yn y pwnc arall
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gyda Lefel 1 o leiaf mewn pwnc arall.
Fodd bynnag, rydym yn annog oedolion sydd â phrofiad bywyd a gwaith i wneud cais hyd yn oed os nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad uchod gan fod cais pob dysgwr yn cael ei asesu ar sail unigol.
Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ oed i astudio’r cwrs hwn.
Efallai y cewch eich cynghori i gofrestru ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gyrfa ac Astudio neu gwrs Sgiliau Hanfodol Cymru cyn dechrau’r cwrs Mynediad. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi’r cyfle i chi uwchsgilio mewn Cymhwyso Rhif a Sgiliau Cyfathrebu.
Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion unigol i gael gwybodaeth am ofynion mynediad.

Byddwch chi’n cael eich asesu’n barhaus drwy gydol y rhaglen, drwy aseiniadau yn bennaf. Byddwch chi hefyd yn cael profiad o brofion wedi’u hamseru a sefyllfaoedd arholiad.
* Dysgu yn seiliedig ar gredydau: Byddwch chi’n ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol.
* Eich cymhwyster: Er mwyn ennill Diploma Mynediad i AU yn llwyddiannus, bydd angen i chi gyflawni 60 credyd, gan gynnwys nifer o gredydau gorfodol. Bydd eich credydau Lefel 3 yn cael eu graddio fel Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth.
* Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.

Y cymhwyster hwn ydy eich llwybr at yrfa werth chweil yn y sector gofal! Byddwch chi’n barod i symud ymlaen i gyrsiau gradd mewn meysydd fel:
* Nyrsio
* Bydwreigiaeth
* Therapi Galwedigaethol
* Radiograffeg
* Rheoli Iechyd
* Nyrsio
* Bydwreigiaeth
* Therapi Galwedigaethol
* Radiograffeg
* Rheoli Iechyd
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/03/2026
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
25/03/2026
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
19/03/2026
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
18/03/2026