City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Tirweddu)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA06321
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gyflawni unedau, a byddan nhw’n cael eu hannog i weithio ar gyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n cymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 18 a 24 mis.
Adran
Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector garddwriaeth. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i lunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno gwella eu sgiliau galwedigaethol uwch a datblygu gwybodaeth dda mewn ystod eang o sgiliau garddwriaeth i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
* Technegydd Garddwriaeth
* Darlithydd Garddwriaeth
* Arweinydd tîm - garddwr tir caled
* Arweinydd tîm - garddwr tir meddal
* Arbenigwr palmantu ac adeiladu llwybrau

Gallwch chi symud ymlaen drwy'r gwahanol lefelau ac i brentisiaethau perthnasol.

Mae'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy'n cyflawni tasgau arferol yn y gweithle, gallan nhw ddefnyddio'r cymhwyster hwn fel cam at gymwysterau uwch o'r math hwn.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys sgiliau o ystod eang o feysydd gan gynnwys yr unedau hanfodol Hybu, monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle, Amcangyfrif a rhaglennu gofynion adnoddau, Rheoli eich adnoddau eich hun, Nodi anghenion cynnal a chadw tirweddau, Monitro cynnal a chadw tirwedd ac archwilio nodweddion a chyfleusterau tirwedd.​
Gallai’r unedau dewisol gynnwys dewis o rai o'r unedau canlynol: Cynnal a chadw systemau draenio, Dull enwi planhigion, Terminoleg ac adnabod, Gosod systemau draenio, Gwerthuso amodau tir ac amgylcheddol i sefydlu ardaloedd glaswellt a phlanedig, Paratoi safleoedd ar gyfer sefydlu tirwedd feddal, Sefydlu ardaloedd wedi’u plannu, Sefydlu glaswellt, Cynnal a chadw systemau dyfrhau, Cynllunio a chynnal ardaloedd wedi’u plannu, Cynllunio ac adnewyddu ardaloedd wedi’u plannu, Paratoi safleoedd ar gyfer gwaith tirlunio, Dylunio a gosod systemau dyfrhau, Gosod arwynebau caled ar gyfer tirlunio allanol, Adeiladu waliau annibynnol, Gosod nodweddion a strwythurau tirwedd galed, Cynllunio a chreu addurniadau dŵr, Adeiladu gerddi cerrig, Trwsio ac adnewyddu waliau, Adnewyddu ardaloedd tirwedd feddal, Cynllunio a chasglu deunydd lledaenu, Paratoi a sefydlu deunydd lledaenu, Cynllunio a gweithredu lledaenu hadau, Trefnu cyflwyno gwasanaethau i gwsmeriaid dibynadwy, Gwella’r berthynas cwsmeriaid, Rheoli amser ar gyfer y busnes, Arwain y timau gwaith ac unigolion i fodloni eu hamcanion, Gwella gwasanaethau i gwsmeriaid, Gweithredu cynllun marchnata, Rheoli cyllidebau.


Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma ydy’r cymhwyster hwn a bydd angen cyflawni 5 credyd o leiaf o’r unedau gorfodol ac o leiaf 30 credyd o’r unedau dewisol.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau gan dystion
Mae achrediadau o ddysgu blaenorol hefyd yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.



Mae’r cymhwyster yn gam cyntaf mewn Fframwaith Brentisiaeth, ond gellir ei ddefnyddio fel hwb i symud ymlaen i gymhwyster uwch o’r math hwn.

● Tystysgrif Lefel 4 mewn Garddwriaeth
● Diploma Lefel 4 mewn Garddwriaeth
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost