Makaton Lefel 2

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18517
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Dau fodiwl
2 awr yr wythnos dros gyfnod o 6 wythnos
Un noson yr wythnos 6pm – 8pm
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
28 Jan 2026
Dyddiad gorffen
11 Mar 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r gweithdy Lefel 2 mewn Makaton i’r rhai sydd â diddordeb mewn adeiladu ar y

wybodaeth a ddysgwyd yn ystod yr hyfforddiant Lefel 1 mewn Makaton.
Ar ôl cwblhau’r gweithdy Lefel 2, dylai cyfranogwyr:

● Wybod am hanes, dyluniad a strwythur Makaton a Geirfa Graidd Makaton.
● Gallu defnyddio arwyddion a symbolau o Gam 3 a 4 yn ogystal â gweddill yr Eirfa
Atodol yn eu hamgylchedd bob ddydd yn ogystal ag adeiladu ar eu defnydd o
dechnegau ar gyfer lleoliad, cyfeiriad a symudiad.
● Bod â rhagor o wybodaeth am y dulliau gwahanol sydd ar gael i ddatblygu sgiliau
cyfathrebu ystod eang o ddefnyddwyr Makaton.
● Cael gwybod am ragor o Gyrsiau a Gweithdai Hyfforddi Makaton.
Mae’n rhaid i gyfranogwyr fod wedi cwblhau’r hyfforddiant Lefel 1 mewn Makaton.
Dim asesiad ffurfiol. Bydd adborth yn cael ei roi yn ystod y sesiynau a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei rhoi ar ddiwedd y cwrs.
Mae’r cwrs yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu sgiliau i symud ymlaen at ragor o
gyfleoedd dysgu gyda Choleg Cambria neu ddarparwyr lleol eraill a/neu wella
rhagolygon swydd.
Mae’r cwrs yn seiliedig ar sgiliau y bydd unigolion yn gallu eu trosglwyddo i’w bywydau
bob dydd a’r gweithle. Bydd rhai o’r sgiliau hyn yn cynnwys cydweithio ag eraill,
gweithio’n annibynnol, cyfathrebu’n effeithiol, gwrando gweithredol a datrys problemau.
£90.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?