Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
MY10104
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, 18 mis.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Rhaid i brentisiaid gyflawni’r holl unedau gorfodol sy’n cynnwys:

Darparu gwasanaethau cwyro
Darparu triniaethau dwylo ac ewinedd
Darparu triniaethau traed
Darparu Triniaethau wyneb
Darparu triniaethau amrannau ac aeliau
Darparu gwasanaethau colur
Darparu triniaethau tylino sylfaenol

Bydd prentisiaid yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy canlynol sydd wedi’u hymgorffori ar draws yr unedau:

Proffesiynoldeb a gwerthoedd
Arferion gweithio diogel
Ymddygiadau craidd
Does dim gofynion mynediad gofynnol na gofynion profiad blaenorol sydd wedi’u cytuno arnynt yn genedlaethol, ond mae’n bosib defnyddio’r meini prawf dethol canlynol fel arweiniad. Oherwydd bod gan y diwydiant ddisgwyliadau cleientiaid uchel a’i fod yn dibynnu ar fusnes ailadroddus, caiff pwysigrwydd ei roi i:

• Gyflwyniad personol priodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol.
• Sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol.
• Sylw i fanylder a glanweithdra.
• Natur empathig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu effeithiol.
• Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg fel y cytunwyd yn y telerau ac amodau cyflogaeth.
• Gwydnwch corfforol ac emosiynol
• Lefel uchel o ddeheurwydd a chydsymud.

• Mae angen i brentisiaid posibl sydd â thueddiad i rai cyflyrau croen neu alergeddau, fel dermatitis galwedigaethol, ecsema neu asthma, ddeall y gallai rhai o’r cynhyrchion, y cemegau a’r fformwleiddiadau sy’n cael eu defnyddio mewn Therapi Harddwch gael effeithiau sylweddol ar eu hiechyd. Rhaid i brentisiaid gael eu cyfweld bob amser gan eu darpar gyflogwr a darparwr hyfforddiant. Gallant ystyried brwdfrydedd ac angerdd am y pwnc yn bwysicach na chymwysterau ffurfiol. Am y rheswm hwn mae’r Sector Gwallt a Harddwch wedi dewis peidio â bod yn rhy ragnodol ynghylch gofynion mynediad. Mae’n fanteisiol cael profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant Therapi Harddwch, torri gwallt dynion neu drin gwallt.

Dyma un o ddau gymhwyster VTCT mewn therapi harddwch ar lefel 2. Er bod y ddau gymhwyster yn cymhwyso dysgwyr i ddod yn arbenigwyr harddwch a chael cyflogaeth ar lefel iau, mae’r cymhwyster hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr weithio mewn salon harddwch masnachol, lle mae’n rhaid cynnal asesiadau ar gleientiaid sy’n talu go iawn yn unol ag amseroedd gwasanaeth masnachol.
I raglen prentisiaeth Lefel 3 mewn Therapi Harddwch. I gyflogaeth fel therapydd harddwch iau neu dechnegydd ewinedd iau neu rolau swyddi yn y diwydiannau cysylltiedig â harddwch.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr drwy 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost