Diploma Lefel 3 VTCT mewn Adweitheg

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA17252
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 22 wythnos

Nos Fercher 5pm tan 9pm

Sylwch fod angen ymarfer ac astudio gartref yn aml iawn ar y cwrs hwn.

Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
12 Nov 2025
Dyddiad gorffen
13 May 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Diploma Lefel 3 VTCT mewn Adweitheg yn gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith er mwyn i chi fod y barod ar gyfer gyrfa fel adweithegydd. Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion busnes ar gyfer therapïau cyflenwol. Yn ogystal â hyn byddwch chi’n dysgu am anatomi, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol. Byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol i ddarparu gwasanaethau adweitheg yn effeithiol. Mae hwn yn gymhwyster ar lefel ymarferydd.

Bydd yr uned yn y cymhwyster hwn yn ymdrin â’r holl sgiliau a gwybodaeth a fydd eu hangen ar gyfer y swydd hon. Mae unedau’n cynnwys:

● Egwyddorion ac ymarfer therapïau cyflenwol
● Ymarfer busnes ar gyfer therapïau cyflenwol
● Byddwch yn dysgu am anatomi, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol
● Darparu adweitheg ar gyfer therapïau cyflenwol



Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch chi’n datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, a gofal cleientiaid. Byddwch chi hefyd yn datblygu ystod o sgiliau technegol i’ch galluogi chi i ddarparu triniaethau adweitheg.


Mae’n ddymunol bod gan ddysgwr gymhwyster lefel 2 sy’n berthnasol i’r sector hwn.
Asesiad mewnol
Mae’r tasgau asesu’n cael eu gosod, eu marcio a’r ansawdd yn cael eu sicrhau yn fewnol gan y ganolfan er mwyn dangos cyflawniad y canlyniadau dysgu’n glir. Bydd asesiadau yn cael eu samplu gan swyddogion sicrhau ansawdd allanol VTCT (EQAs).


Portffolio
Gall tystiolaeth yn y portffolio fod ar y ffurfiau canlynol:
● Gwaith dan oruchwyliaeth
● Datganiadau tystion
● Cyfryngau clyweledol
● Tystiolaeth o ddysgu neu gyrhaeddiad blaenorol
● Cwestiynau ysgrifenedig
● Cwestiynau ar lafar
● Aseiniadau
● Astudiaethau achos

Astudiaethau allanol
Bydd papurau cwestiynau sy’n cael eu cwblhau’n electronig ac yn cael eu hasesu’n allanol yn cael eu gosod a’u marcio gan VTCT.

Bydd llwybrau dilyniant i ddysgwyr yn cynnwys parhau i gofrestru ar gymwysterau lefel 3 eraill a/neu gymwysterau lefel uwch. Y gallu i weithio’n annibynnol fel therapydd symudol neu yn y sector Therapi Sba a Harddwch.

£650.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?