Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00578 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cwrs dysgu cyfunol hwn yn cynnig hyblygrwydd i gyd-fynd â’ch bywyd. Bydd 53% o’r cwrs cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb ar y safle, rhwng 9:15 am a 6:30 pm bob dydd Mercher. Bydd gweddill eich dysgu yn e-ddysgu ar-lein, y gallwch chi ei gwblhau ar amser sy’n gyfleus i chi yn ystod eich wythnos. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal o fis Ionawr i fis Rhagfyr, gyda seibiant dros yr haf. Er mwyn sicrhau eich bod chi’n llwyddo, mae gallu rheoli amser personol yn allweddol. Bydd cynllunio eich amser astudio annibynnol ac ar-lein yn cefnogi eich taith ddysgu ac yn eich helpu chi i gyflawni eich nodau. |
Adran | , Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl |
Dyddiad Dechrau | 14 Jan 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Nov 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl a dechrau gyrfa werth chweil ym maes gofal iechyd? Mae'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd, sydd wedi'i gynllunio i'ch paratoi chi ar gyfer astudio yn y brifysgol, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous mewn nyrsio, bydwreigiaeth, therapi galwedigaethol a phroffesiynau iechyd cysylltiedig eraill.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Bydd y rhaglen llawn amser, blwyddyn o hyd hon yn rhoi’r wybodaeth hanfodol a'r sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch. Byddwch chi’n cael dealltwriaeth gadarn o bynciau arbenigol drwy fodiwlau gorfodol, gan gynnwys:
* Anatomi a Ffisioleg
* Cymdeithaseg
* Astudiaethau iechyd
Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol, gan gynnwys:
* Cyfathrebu
* Sgiliau Astudio
* Rhifedd
Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar y modiwlau penodol sy’n berthnasol i’ch taith dysgu.

Gradd C/4 mewn TGAU Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg, gyda gradd D/3 o leiaf yn y pwnc arall
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gyda Lefel 1 o leiaf mewn pwnc arall.
Fodd bynnag, rydym yn annog oedolion sydd â phrofiad bywyd a gwaith i wneud cais hyd yn oed os nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad uchod gan fod cais pob dysgwr yn cael ei asesu ar sail unigol.
Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ oed i astudio’r cwrs hwn.
Efallai y cewch eich cynghori i gofrestru ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gyrfa ac Astudio neu gwrs Sgiliau Hanfodol Cymru cyn dechrau’r cwrs Mynediad. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi’r cyfle i chi uwchsgilio mewn Cymhwyso Rhif a Sgiliau Cyfathrebu.
Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion unigol i gael gwybodaeth am ofynion mynediad.

Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu’n barhaus, drwy waith aseiniadau yn bennaf, gyda rhai profion neu arholiadau wedi’u hamseru i’ch paratoi chi ar gyfer asesiadau prifysgol. Byddwch chi’n ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Er mwyn ennill Diploma Mynediad i AU yn llwyddiannus, bydd angen i chi gyflawni 60 credyd, gan gynnwys nifer o gredydau gorfodol. Mae credydau Lefel 3 yn cael eu graddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.

Mae galw mawr am weithwyr medrus yn y sector gofal iechyd yn y DU, ac mae cyfleoedd da i gael swydd! Y cymhwyster hwn ydy eich llwybr at yrfa werth chweil yn y sector gofal, gan eich paratoi chi ar gyfer cyrsiau gradd mewn meysydd fel:
* Nyrsio
* Bydwreigiaeth
* Therapi Galwedigaethol
* Radiograffeg
* Rheoli Iechyd
Y cyflogwr gofal iechyd mwyaf ydy’r GIG ond mae llawer o swyddi i’w cael yn y sector gofal preifat hefyd.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/03/2026
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
25/03/2026
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
19/03/2026
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
18/03/2026