main logo

Canolfan Brifysgol - Cymorth i Fyfyrwyr

Adult learner

Fel Canolfan Brifysgol ymroddedig i ddarparu profiad addysgol cynhwysfawr, yn Cambria rydym yn deall bod myfyrwyr yn wynebu heriau unigryw yn ystod eu taith academaidd. Dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig ystod o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr ffynnu.

Mae ein Timau Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’u lleoli ar bob un o’n safleoedd, ac maen nhw yma i ddarparu cymorth ac arweiniad ar faterion personol, ariannol, ac academaidd, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor ar gyrsiau a chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo chi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni, er mwyn i chi gyflawni eich nodau academaidd a llwyddo mewn bywyd.

Cymerwch gip isod ar rai o’r ffyrdd gallai’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi.

Gallwch chi gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr wrth ffonio 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk.

Rydym yn cydnabod y gall iechyd meddwl a llesiant gael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr. Mae’r tîm yng Nghanolfan Brifysgol Cambria yn angerddol am ddarparu’r cymorth a’r adnoddau gorau posib i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl da.

Nid oes unrhyw feini prawf i’w fodloni, gallai myfyrwyr gyfeirio eu hunain ar gyfer Hyfforddiant Gwytnwch, Cwnsela, cymorth Lles ar yr Hwb Myfyrwyr, siarad â’u Tiwtor Cwrs, galw heibio Gwasanaethau Myfyrwyr neu anfon e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk

Darganfyddwch ragor am Gymorth Iechyd Meddwl yma.

Gall ein Cynghorwyr Gyrfa a’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr gynorthwyo myfyrwyr gyda chwestiynau am eu camau nesaf, neu os ydynt yn ansicr am eu cwrs presennol.

Wrth ddefnyddio gwybodaeth a thueddiadau diweddar y farchnad lafur, gallant helpu myfyrwyr i ymchwilio gyrfaoedd ym mhob sector gwaith.

Ar ben hynny, mae gennym Gydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, sy’n gallu cynnig arweiniad a chymorth ar hunan gyflogaeth a dechrau busnes trwy weithdai, siaradwyr gwadd a chlybiau menter.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at careers@cambria.ac.uk.

Yma yng Ngholeg Cambria mae gennym ni gysylltiadau da, gyda chludiant ar gael o amrywiaeth eang o leoliadau ar hyd Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae rhwydwaith y Coleg am ddim i’w ddefnyddio, cyn belled â’ch bod yn byw 3 milltir i ffwrdd o’r safle. Am ragor o wybodaeth ac argaeledd, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr.

Am unrhyw gymorth, cyngor neu arweiniad ynghylch eich cludiant i’r Coleg, anfonwch e-bost at transport@cambria.ac.uk.

Mae Canolfan Brifysgol Cambria wedi ymrwymo i ddiogelwch a llesiant myfyrwyr ac mae’n darparu:

  • Tîm diogelu cefnogol ar bob safle
  • Dull gwrth-fwlio clir
  • Amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr drafod pryderon neu faterion yn ymwneud â safbwyntiau eithafol, terfysgaeth neu beryglon radicaleiddio
  • Hyfforddiant a gwybodaeth Diogelu a Prevent i bawb.

Cliciwch isod i weld ein polisiau Diogelu a Prevent:

Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu os rydych chi’n pryderu am unrhyw un arall ewch i’r Hwb Myfyrwyr.

Gallai myfyrwyr gyrchu cymorth ariannol gan gynnwys:

  • Cludiant am ddim sydd ar gael o ystod eang o leoliadau ar draws tair sir
  • Brecwast am ddim i’r holl fyfyrwyr
  • Cyngor, gwybodaeth ac arweiniad gan staff sy’n hawdd mynd atynt ar bob safle.
Cyllid Myfyrwyr

Fel myfyriwr Addysg Uwch, gallwch chi gyrchu amrywiaeth o gymorth ariannol.

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Chyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig benthyciadau (y byddwch yn eu had-dalu) a grantiau (nad ydych chi’n eu had-dalu) i unrhyw un sy’n astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Cambria.

Bydd eich cymhwysedd yn dibynnu ar y math o gwrs, ble rydych chi’n byw ac incwm y cartref.

Gall Coleg Cambria gynnig taliad bwrsariaeth o £1000 i chi os ydych chi’n symud ymlaen o Goleg Cambria (e.e. lefel 3 a Mynediad i AU) i un o’r cyrsiau canlynol:

  • FdA mewn Astudiaethau Plentyndod

Caiff y fwrsariaeth ei thalu mewn dau daliad o £500:

  • blwyddyn 1, ar ddiwedd Semester 2
  • blwyddyn 2, ar ddiwedd Semester 2.

Er mwyn cael y fwrsariaeth, mae’n rhaid i chi gadw at yr amodau canlynol:

  • Bod â chadarnhad gan y Brifysgol bod ffioedd y cwrs wedi’u talu hyd yma
  • Mae gennych chi ganran presenoldeb o dros 90%
  • Rydych chi wedi cwblhau’r holl waith sydd angen ei gwblhau (wedi’i gadarnhau gan yr Arweinydd Rhaglen).

I Ddysgwyr Canolfan Brifysgol sy’n Byw yng Nghymru

Ffioedd Dysgu

Gallwch chi gael hyd at £9,250 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint mae eich cwrs yn ei gostio. Nid yw’r swm rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Rydym yn talu’r benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu goleg. Mae’n rhaid i chi ei dalu yn ol, gan gynnwys llog ar ol i chi orffen neu adael eich cwrs. Peidiwch â phoeni, ar hyn o bryd nid oes rhaid i chi dalu unrhyw beth yn ol tan i chi fod mewn cyflogaeth ac ennill dros y trothwy ad-dalu o £524 yr wythnos, neu £2,274 y mis.

Cymorth gyda Chostau Byw

Gallech chi hefyd gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’ch costau byw. Mae faint rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref a ble rydych chi’n byw ac yn astudio.

Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o faint y gallech chi ei gael yn seiliedig ar incwm eich cartref ar gyfer 2023/24:

Incwm Aelwydydd
Byw Gyda’ch Rhieni
Benthyciad
Grant
£18,370 neu lai
£3,065
£6,885
£25,000
£4,020
£5,930
£35,000
£5,462
£4,488
£45,000
£6,903
£3,047
£59,200 neu ragor
£8,950
£1,000
Cyfanswm
£9,950
Incwm Aelwydydd
Byw i Ffwrdd o Gartref eich Rhieni
Benthyciad
Grant
£18,370 neu lai
£3,620
£8,100
£25,000
£4,773
£6,947
£35,000
£6,512
£5,208
£45,000
£8,251
£3,469
£59,200 neu ragor
£10,720
£1,000
Cyfanswm
£11,720

Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i weld manylion llawn yr holl gymorth ariannol a sut a phryd i wneud cais.

Dysgwyr sy’n Byw y Tu Allan i Gymru

Fideos Defnyddiol

I gael rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol ychwanegol hwn, gallwch glicio’r canlynol: