main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

UniversityCentre (1)

Mae gan y coleg ystod eang o gyrsiau addysg uwch ar gael mewn partneriaeth â sefydliadau blaenllaw fel Prifysgolion Bangor, Glyndŵr Wrecsam, John Moores Lerpwl, Abertawe ac Aberystwyth. Yn ogystal maent yn cynnal rhaglenni ochr yn ochr â Pearson, y corff dyfarnu cenedlaethol.

Mae pynciau yn cynnwys Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu, Rheolaeth Anifeiliaid, Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Technoleg Fecanyddol, Addysgu, Twristiaeth a Lletygarwch, Peirianneg Sain, a Chwaraeon.

Mae Emma Hurst, Deon Addysg Uwch ac is-bennaeth Cambria, yn dweud bod twf yn y diddordeb yn eu darpariaeth wrth i ddysgwyr ysgol a choleg edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd 2022/23.

“Un o’r rhesymau am hynny yw bod rhagor o fyfyrwyr yn dewis astudio’n agosach at gartref oherwydd y pandemig,” meddai Emma.

“Rheswm arall yw bod ein cysylltiadaugyda phrifysgolion blaenllaw yn tyfu o hyd ac mae’r opsiwn i ennill gradd trwy Goleg Cambria yn llwybr naturiol o’r ysgol neu gymhwyster Addysg Bellach.

“Mae’r cyfle i ennill gradd gyda choleg – sydd yng nghalon cymunedau ledled y gogledd ddwyrain, sydd â chyfleusterau anhygoel a chymorth a gofal bugeiliol o’r radd flaenaf – yn rhinwedd gwerthu unigol i ddysgwyr.”

Ychwanegodd hi: “Mae’r digwyddiadau galw heibio yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i ddod i weld beth sydd gennym ni i’w gynnig a siarad â darlithwyr mewn amgylchedd cyfforddus.

“Rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol iawn ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at groesawu pobl i’r sesiynau dros y wythnosau nesaf.”

Yn ddiweddar mae Coleg Cambria sydd â safleoedd yn Wrecsam, Llysfasi, Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain, wedi datgelu gwefan a chanllaw addysg uwch newydd mewn partneriaeth â’r prifysgolion.

Dywedodd Emma: “Er mwyn cadarnhau ein hymrwymiad i Addysg Uwch, rydyn ni wedi lansio gwefan a chanllaw penodol sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr a’u teuluoedd, o ffioedd a chyllid i gymorth myfyrwyr ac arweiniad ar ba gwrs fydd orau ar gyfer eu gyrfa ddewisol.

“Mae pob un o’r cyrsiau wedi’u cynllunio gyda chyflogaeth mewn golwg ac wedi’u teilwra gyda’n partneriaid prifysgol a diwydiant i ddiwallu anghenion y myfyrwyr a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.”

Bydd digwyddiadau galw heibio yr haf yn cael eu cynnal yn Iâl, Wrecsam, ddydd Mawrth 19 Gorffennaf o 10am-7pm, ac yng Nglannau Dyfrdwy o 10am-7pm ddydd Mercher 27 Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth ar y Ganolfan Brifysgol, ffioedd a chyllid a’r cyrsiau lefel gradd sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i  www.cambria.ac.uk/higher-education a dilynwch @colegcambria ar gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ddarganfod rhagor hefyd ar www.cambria.ac.uk/cucdropin.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost