Pam ein dewis ni
Ein Gwasanaethau
Ysgol Fusnes Cambria
Canllaw Cyrsiau
Manteision gweithio gyda Cambria ar gyfer Busnes
Ni yw un o ddarparwyr mwyaf addysg a hyfforddiant yng Nghymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae gennym enw da o ran darparu sgiliau a pherthnaseddau cadarn gyda chyflogwyr rhanbarthol a chenedlaethol.
Rydym yn gweithio gyda busnesau o bob maint gan gyflwyno hyfforddiant a datblygiad hyblyg o safon uchel sy’n bodloni anghenion y diwydiant.
Mae tîm Cambria ar gyfer Busnes yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer cyflogwyr, gan helpu i nodi eich anghenion hyfforddiant, cyllid hygyrch a chynorthwyo busnesau i elwa ar y manteision a all ddod yn sgil y buddsoddiad hwn. Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda’n Siop Swyddi, i ddarparu cymorth hysbysebu recriwtio i’n cyflogwyr a mynediad i’n myfyrwyr, i gynorthwyo â dilyniant yn eich busnes ac anghenion cynllunio gweithlu’r dyfodol.
Bydd y tîm yn teilwra’r gwasanaethau i weddu i’ch anghenion unigol, eich cyllideb a’ch amcanion. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth ar draws y diwydiant, y maent yn ei defnyddio i helpu i gynghori a rhoi gwybod i fusnesau am y datrysiadau hyfforddi gorau sydd ar gael a ffynonellau cyllid posibl.
Chwilio am ein holl gyrsiau
Pam gweithio gyda ni
Proffil graddau gorau
Profiad
Staff profedig
Partneriaethau cadarn
Bodloni eich anghenion busnes
Darparwr cymeradwy
Miloedd o fyfyrwyr i ddewis ohonynt i gynorthwyo â chynlluniau recriwtio
Cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf
Newyddion Diweddaraf
Croesawyd arweinwyr ADDYSG o bob rhan o’r DU ac Ewrop i Wrecsam wrth i ni gynnal cynhadledd ryngwladol nodedig wedi’i phweru a’i chyflwyno gan ein myfyrwyr.
Mae cyn chef a dreuliodd flynyddoedd yn gweithio mewn ceginau bwytai yng Ngwlad Pwyl bellach yn paratoi i ddechrau PhD yng Ngwlad Thai
Gyda Pwy Rydym yn Gweithio
Diwallu anghenion eich busnes
Mae ein tîm dawnus yma i’ch helpu chi, gydag ystod eang o arbenigedd a phrofiad o fewn y sector masnachol a chyhoeddus ac enw da cadarn am ddarparu rhagoriaeth academaidd ar draws ein portffolio o gyrsiau, rydym yn siŵr bod gennym ni’r atebion sydd fwyaf addas i chi.
P’un a ydych am uwchsgilio gweithwyr presennol, hyfforddi staff newydd neu ddatblygu sgiliau arwain a rheoli, mae gennym ystod eang o gyrsiau, hyfforddiant a phecynnau pwrpasol ar gael.
Chwiliwch ein holl gyrsiau
Cipolwg ar ein gwasanaethau
Dyma rai o’r ffyrdd y gallwn eich helpu i recriwtio pobl ddawnus, gwella sgiliau eich gweithlu a thyfu eich busnes.
Cymorth recriwtio a chreu cysylltiadau gyda myfyrwyr trwy Siop Swyddi Cambria.
Cyflogi Prentis
Datblygu proffesiynol
Cyrsiau rhan amser
Atebion Pwrpasol
Cyrsiau lefel gradd
Twf Swyddi Cymru+
Cymorth Recriwtio
Creu cysylltiadau gyda myfyrwyr
trwy Siop Swyddi Cambria
Croeso
Croeso i Ysgol Fusnes Cambria, sef amgylchedd dysgu modern gwerth £3.5 miliwn mewn amgylchedd prydferth a thrawiadol yn Llaneurgain, Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae gan yr Ysgol Fusnes newydd ddeulawr o gyfleusterau modern, rhyngweithiol ac mae’n gartref i rai o’n cyrsiau datblygu proffesiynol, cyrsiau lefel gradd a hyfforddiant cyflogwyr.
Mae adeilad yr ysgol fusnes yn cynnwys atriwm trawiadol gyda seddau cyfforddus, byrddau coffi, soffas a meinciau lle gallwch gymdeithasu. Gyda’i olau naturiol helaeth, cyfleusterau digidol a mannau rhyngweithiol, dyma ddyfodol dysgu.
Ble i Ddod o Hyd i Ni
- Ysgol Fusnes Coleg Cambria
- Ffordd Treffynnon,
- Llaneurgain,
- Yr Wyddgrug,
- CH7 6AA
Teithiau Rhithwir 360°
Os ydych chi erioed wedi bod eisiau gweld sut olwg sydd ar y safle cyn i chi ymweld neu ddechrau eich taith gyda ni, gallwch wneud hynny o gysur eich cartref eich hun.
Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.
Dewiswch gyfleuster/adeilad i lansio taith:
Ysgol Fusnes
Cambria
Chwilio am Gyrsiau Ysgol Fusnes Cambria
Pam Dewis Ysgol Fusnes Cambria
Proffil gradd gorau
Rydym wedi ennill y Proffil Gradd Gorau hyd yma ar gyfer dysgu yn y gwaith yng Nghymru ar ôl arolygiadau gan Estyn Arolygiaeth Ei Mawrhydi.
Enw da
Mae gennym flynyddoedd o brofiad perthnasol ac enw da mewn cyflwyno hyfforddiant masnachol.
Staff Profiadol
Mae gennym staff profiadol, sydd wedi ennill gwobrau sydd â llu o wybodaeth am y diwydiant i'w rhoi i chi.
Partneriaethau cadarn
Mae gennym bartneriaethau gwaith cadarn gyda dros 1500 o gyflogwyr o bob maint ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano, mae gennym ni’r cwrs, yr ateb a’r cymorth cywir i’ch helpu. Isod gallwch ddysgu rhagor am yr holl gyrsiau sydd ar gael i chi yng Ngholeg Cambria.
O ganllawiau i gyflogi prentisiaid i gyrsiau byr, rhan amser a llawn amser, gallwch ddarganfod popeth sydd arnoch chi angen ei wybod trwy glicio ar y lawrlwythiadau isod – mae mor syml â hynny!
I ddarganfod popeth am y cyrsiau prentisiaeth rydym yn eu cynnig, cliciwch yma.