Background Splash

Gan Alex Stockton

Conf 1

O arlwyo a chynhyrchu cyfryngau i ymgysylltu â chynrychiolwyr, roedd dysgwyr yn ganolog i lwyddiant Cynhadledd Ryngwladol College Alliance, gan ennill profiad uniongyrchol o weithio yng nghanol digwyddiad byd-eang mawr.

Cafodd y gynhadledd ei chynnal dros ddeuddydd ar safle Iâl, ac roedd dros 90 o bobl yn bresennol o ar hyd a lled y DU ac Ewrop – gan gynnwys y Swistir, Awstria a Gwlad Belg – roedden nhw’n archwilio arferion gorau mewn academia, cyflogaeth a llesiant wrth brofi diwylliant y coleg, sy’n canolbwyntio ar amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y bobl a’r dysgwyr.

Archwiliodd uwch lunwyr polisi, arweinwyr colegau ac ymarferwyr rhyngwladol sut y gall AB (addysg bellach) gefnogi dysgwyr a chymunedau – yn enwedig y rhai sy’n cael fawr o gyfle mewn bywyd – trwy addysg, cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol.

Roedd sesiynau’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â diweithdra, gwella llesiant a chryfhau llwybrau i mewn i waith.

Wrth annerch y cynrychiolwyr, pwysleisiodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria, werth dysgu yn y byd go iawn.

“Mae Coleg Cambria yn goleg sydd yng nghanol ei gymuned, ac mae digwyddiadau fel hyn yn dangos pa mor bwerus y gall addysg fod pan rydyn ni’n ymddiried yn ein myfyrwyr i fynd i’r afael â chyfrifoldebau go iawn,” meddai Ms Williams.

“Dim ymweld â’r gynhadledd yn unig a wnaeth ein dysgwyr, ond mi wnaethon nhw helpu i’w threfnu a’i chyflwyno. Mae’r profiad go iawn hynny yn drawsnewidiol ac yn paratoi pobl ifanc ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Roedd myfyrwyr yn rhan o’r broses drwyddi draw, o gynllunio a logisteg i gyflwyno a gwerthuso. Darparodd Bwyty Iâl y coleg yr holl arlwyo, gan gynnwys pryd Blas o Gymru ar gyfer cinio rhwydweithio gyda’r nos, gan arddangos yr iaith a’r diwylliant Cymraeg a chynnyrch lleol wrth reoli gweithrediadau blaen y tŷ mewn amgylchedd dan bwysau uchel.

Gwnaeth myfyrwyr y cyfryngau gefnogi’r rhaglen hefyd, gan ddatblygu hyder, arbenigedd technegol a phroffesiynoldeb drwy gyfrannu’n uniongyrchol i lwyddiant y gynhadledd.

Roedd yr agenda hefyd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, dan arweiniad myfyrwyr, ar gyflogadwyedd, llesiant dysgwyr, addysg gynhwysol ac ehangu cyfranogiad. Roedd y cynrychiolwyr yn cynnwys uwch arweinwyr o golegau, cyrff addysg cenedlaethol a sefydliadau rhyngwladol fel Cymdeithas Ewropeaidd Addysg i Oedolion a’r OECD.

Gwnaeth y gynhadledd ddathlu llwyddiant cyn-fyfyrwyr hefyd, gyda chyn-fyfyriwr Chweched Glannau Dyfrdwy Jonathon Dawes, o’r Rhyl, yn dychwelyd fel siaradwr.

“Dwi’n hynod o falch i fod yn gyn-fyfyriwr Coleg Cambria ac i fod yn rhan mewn cynhadledd ryngwladol o’r raddfa yma,” meddai.

“Chwaraeodd y coleg ran enfawr yn llunio fy hyder a’m huchelgais, ac mae’n ysbrydoledig gweld myfyrwyr presennol yn ennill profiad mor ystyrlon ac yn cyfrannu mewn ffordd mor broffesiynol.”

Clywodd y rhai a oedd yn bresennol hefyd gan uwch ffigurau ar draws y sector, gan gynnwys cyfraniad allweddol gan Gymdeithas y Colegau, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio rhyngwladol a dyletswydd colegau wrth adeiladu economïau cynhwysol.

Dywedodd Lewis Cooper, Cyfarwyddwr y College Alliance: “Mae wedi bod yn wych cael arweinwyr colegau, llunwyr polisi ac arbenigwyr o bob cwr o bedair gwlad y DU ac yn rhyngwladol i gyd yn canolbwyntio ar drafod y rhan y mae colegau’n ei chwarae wrth gefnogi pobl o bob oed i gael gwaith.

“Mae gennym ni lawer iawn i’w ddysgu o’r gwahanol ddulliau polisi sy’n cael eu gweithredu ar draws y gwahanol systemau cenedlaethol, ac mae wedi bod yn wych cael cydweithwyr o Lywodraeth Cymru a Medr yn rhannu’r dull sy’n cael ei weithredu yma yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi dysgu hefyd o waith rhagorol gan y colegau sy’n cael eu cynrychioli yma, yn enwedig gan Goleg Cambria a’r rhan bwysig y mae’n ei chwarae i bobl a chyflogwyr ledled y rhanbarth.”

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn arbennig o dda i gael myfyrwyr Coleg Cambria yn chwarae rhan mor ganolog ar draws y tridiau, gyda bwyd blasus, lletygarwch gwych, areithiau arbennig gan gyn-fyfyrwyr diweddar a sgiliau rheoli digwyddiad sydd wedi gwneud argraff wirioneddol.

“Felly diolch yn arbennig i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran, ac i bawb yng Ngholeg Cambria am gynnal y gynhadledd.”

Gweld yr holl Ffotograffiaeth o’r digwyddiad yma

https://youtu.be/F7Z4S6B_aak

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost