Cynhaliwyd y Sioe Gofal Plant gyntaf yn adeilad £14m Nant ar Safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam, gan groesawu gwesteion o bob rhan o’r sector a’r rhanbarth.
Wedi’i drefnu gan yr Asesydd Gofal Plant Lauren Lawrence, cyn-reolwr meithrinfa gyda thros 10 mlynedd o brofiad, hwn oedd y digwyddiad cyntaf o’i fath i’r coleg, gan ddod â rhai o enwau amlycaf y diwydiant ynghyd.
Roedd hefyd yn arddangos cyfleusterau a chyrsiau’r coleg, gyda thros 30 o sefydliadau a busnesau – yn ogystal â hyd at 100 o fyfyrwyr a’u teuluoedd, elusennau a chyfranddalwyr perthnasol – yn ymuno â Lauren a’r tîm.
Meddai: “Roedd y digwyddiad yn llawn awyrgylch anhygoel a roddodd ysbrydoliaeth go iawn i’n myfyrwyr , ac fe gawson ni bleser mawr wrth ddathlu eu llwyddiannau gyda’n gilydd.
“Mae’r profiad hwn wedi’n gwneud ni’n wirioneddol optimistaidd ar gyfer Sioeau Gofal Plant yn y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at ddyfnhau’r partneriaethau rydyn ni wedi’u sefydlu.
“Rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan y rhai a fynychodd a hoffem ddiolch iddyn nhw am gymryd rhan.”
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol oedd carfannau o Lefelau 2 a 3 y cymhwyster Gofal, Chwarae a Dysgu Plant.
Roedd sefydliadau gan gynnwys y GIG, Ysgol Goedwig, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, aseswyr ansawdd a meithrinfeydd preifat hefyd wedi cofrestru.
Trwy gydweithio, dywed Lauren y gallant wneud gofal plant yn gynnig mwy deniadol i bobl ifanc yn y dyfodol.
“Mae cymaint o opsiynau ar gael, ond yn draddodiadol nid yw hon wedi cael ei hystyried yn yrfa hirdymor hyfyw, ac rydyn ni eisiau newid hynny,” ychwanegodd.
“Mae pobl eisoes yn gofyn i ni wneud hwn yn ddathliad blynyddol ac ar ôl llwyddiant ein digwyddiad cyntaf rydyn ni’n bendant yn bwriadu gwneud hynny.”
Ewch i Ein Cyrsiau < Coleg Cambria am ragor o wybodaeth am y rhaglenni Gofal Plant sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.