Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Introducing HNC Flex: Training That Fits Around Work and Builds Towards Qualifications

Mae Ysgol Fusnes Llaneurgain wedi lansio ei raglen arloesol HNC Flex, gan roi rhyddid i gyflogwyr a gweithwyr i ddewis, cymysgu a bod yn hyblyg o ran y modiwlau maen nhw’n eu hastudio.

Gallai dysgwyr astudio cyrsiau byr, eu pentyrru ar ben ei gilydd ac adeiladu credydau tuag at y cymhwyster llawn – cam cyntaf i Goleg Cambria mewn partneriaeth â’r darparwr addysg Pearson.

“Mae’r dull yma yn wych ar gyfer DPP,” meddai Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol Ymgysylltu â Chyflogwyr.

“Mae’n cynnig hyblygrwydd i bobl sydd mewn gwaith yn barod, yn brysur, neu’r rhai sydd ddim yn gallu ymrwymo i un cwrs llawn amser.”

Y modiwl Flex gyntaf sy’n lansio ym mis Hydref ydi’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) Lefel 4 BTEC mewn Busnes – Uned 15 Cynllunio a Rheoli Gweithredol

Mae’r cwrs werth 15 credyd tuag at yr HNC llawn 120 credyd, a bydd yn cael ei gyflwyno ar draws wyth sesiwn chwe awr yn Llaneurgain, gan ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i reoli gweithgareddau gweithredol yn effeithiol, cyfrannu at lwyddiant busnes, ac ymgysylltu ag agweddau ehangach yr amgylchedd busnes.

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at ystod eang o swyddi gan gynnwys darpar weinyddwyr busnes a rhai presennol; rheolwyr gweithredol ac adrannol; gweithwyr sydd eisiau hybu effeithlonrwydd busnes, a dysgwyr sydd eisiau datblygu arbenigedd mewn rheoli gweithrediadau, gwneud penderfyniadau ariannol, a datblygiad parhaus.

Gallai ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen drwy fodiwlau HNC Flex eraill, gan gynnwys Rheoli Busnes, gan agor ystod eang o gyfleoedd gyrfa mewn cynllunio, rheoli, a gwella busnes.

Mae cyllid ar gael i ddysgwyr cymwys, yn enwedig y rhai sy’n byw yn Wrecsam a Sir y Fflint, drwy’r rhaglenni Sgiliau Cyflogwr.

I wneud cais ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Am ragor o wybodaeth am gyllid i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i Cyllid i Gyflogwyr a Gweithwyr < Coleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost