Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

NIAMH JONES stood in front of balloons

Bydd y fyfyrwraig o Goleg Cambria yn cymryd ei chamau cyntaf at y proffesiwn trwy astudio am radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ysbrydolwyd Niamh, 18 oed o Wrecsam, i ddilyn deintyddiaeth ar ôl iddi dorri dau ddant blaen.

Sbardunodd y gofal a’r tosturi a dderbyniodd bryd hynny i fod eisiau helpu eraill yn yr un ffordd rhyw ddydd.

“Arhosodd y profiad hwnnw gyda mi,” meddai Niamh sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Maelor ym Mhenley.

“Sylweddolais pa mor bwysig y gall gwên fod i hyder rhywun a pha mor wych fyddai gweithio mewn swydd sy’n helpu pobl mewn ffordd mor bersonol.”

Ar hyn o bryd mae Niamh yn cwblhau Lefel A mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg yn Chweched Dosbarth Iâl Coleg Cambria.

Mae hi wedi derbyn cynigion i astudio deintyddiaeth a phenderfynodd ei bod am fynd i astudio yng Nghaerdydd ar ôl mynychu eu Hysgol Haf mewn Deintyddiaeth trwy Rwydwaith SEREN.

Drwy gydol ei hamser yn Cambria mae Niamh wedi manteisio’n llawn ar y cyfleoedd cymorth a chyfoethogi sydd ar gael.

Ymunodd â Chymdeithas Feddygol y coleg lle dysgodd fwy am ofynion mynediad prifysgol, arholiad UCAT ac ennill profiad cyfweliad gwerthfawr gydag adborth gan feddygon a myfyrwyr meddygol.

Ychwanegodd Niamh: “Cefais y cyfle i baratoi a magu’r hyder oedd ei angen arna i gyda’r Gymdeithas Feddygol.

Roedd y cyfweliadau ffug a’r canllawiau wrth lenwi fy nghais yn rhan fawr o’r rheswm pam fy mod i wedi bod yn llwyddiannus.”

A hithau’n gerddor talentog hefyd mae Niamh yn gweithio tuag at ei Gradd 8 mewn piano ac yn chwarae’r ffidil mewn cerddorfeydd lleol gan gynnwys Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o gôr Sir Wrecsam.

Hoffai Niamh ddangos ei gwerthfawrogiad i’w thiwtor Nora Richardson am ei chefnogaeth a’i harweiniad parhaus yn ystod ei hamser yn Cambria.

Dywedodd Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Dosbarth Iâl: “Mae taith Niamh yn dangos sut y gall un foment o ofal ysbrydoli gyrfa yn y dyfodol. Mae ei hymdrech, ei thalent a’i phenderfyniad yn ei gwneud yn fodel rôl wych i eraill. Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am ei chyraeddiadau yn y dyfodol.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth ar astudio Lefel A yng Ngholeg Cambria. Fel arall anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007 neu defnyddiwch y cyfleuster Sgwrsiwch nawr! | Cymorth Cwsmeriaid Coleg Cambria ar y wefan.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost