Diwrnodau Croesawu Myfyrwyr
Mae Diwrnodau Croesawu Myfyrwyr yn rhoi’r cyfle i chi, fel ymgeisydd, gyfarfod eich tiwtoriaid a myfyrwyr newydd eraill, gweld ble byddwch chi’n astudio ym mis Medi, cael gwybod am gymorth i fyfyrwyr a chael teimlad cyffredinol o sut beth ydy bod yn fyfyriwr yn Cambria.
Pwysig: Mae’r dyddiau yma ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi gwneud cais. Os nad ydych chi wedi gwneud cais eto, mae amser ar ôl i wneud hynny ac mae’n allweddol eich bod chi’n cael eich cais i mewn cyn gynted â phosibl wrth i gyrsiau gael eu llenwi. Dolen i chwilio am gwrs.
Erbyn hyn dylai pob ymgeisydd fod wedi cael e-bost gyda dolen i gadw eu lle.
Os ydych chi wedi gwneud cais, mae’n hanfodol cadw lle!
Cadwch Eich Lle Heddiw - cadwch eich lle erbyn dydd Llun 9 Mehefin!
Digwyddiad Rhithwir Cyfarfod y Tiwtoriaid Llysfasi
Dydd Llun 16 Mehefin - 6-7pm
Safle Llysfasi
Gofal Anifeiliaid i'r Niwroamrywiol (Llaneurgain) am a Cyfryngau i'r Niwroamrywiol (Glannau Dyfrdwy) pm
Dydd Llun 16 Mehefin
Byddwn yn Cysylltu â Chi Gyda Manylion Amser
Camu at Camria
Dydd Mawrth 17 Mehefin - 9am-1:30pm
Llaneurgain/Iâl
Technoleg i'r Niwroamrywiol ac Ymgysylltu i'r Niwroamrywiol (Iâl)
Dydd Mawrth 17 Mehefin
Byddwn yn Cysylltu â Chi Gyda Manylion Amser
Lefel 2, 3 a Safon Uwch
Dydd Iau 19 Mehefin - 9am-1:30pm (Ffordd y Bers/Llaneurgain - 9.15-1.10pm)
Pob safle
Mynediad a Lefel 1
Dydd Gwener 20 Mehefin - 9am-1:30pm (Ffordd y Bers/Llaneurgain - 9.15-1.10pm)
Pob safle
Ddim yn siŵr pa ddiwrnod sydd i chi?
Peidiwch â phoeni, os ydych chi wedi gwneud cais ac wedi cael cynnig amodol gennym ni, yna byddwch chi wedi cael e-bost gyda dolen i gadw lle. Bydd yr e-bost wedi dod oddi wrth gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk. Os nad ydych chi wedi cael yr e-bost, yna cysylltwch ag ymholiadau@cambria.ac.uk
Cludiant
I’r rhai sy’n mynd i’r Diwrnod Croesawu Camu at Cambria ddydd Mawrth 17 Mehefin, sylwch y bydd angen i chi drefnu eich cludiant eich hun i Laneurgain neu Iâl. Mae ein cyfeiriad ar gael yn eich gwahoddiad e-bost neu ar ein gwefan.
Bydd cludiant coleg ar gael ar gyfer y digwyddiadau isod:
Dydd Iau 19 Mehefin – 9am-1:30pm – Lefel 2, 3 a Safon Uwch pob safle (Ffordd y Bers/Llaneurgain – 9.15-1.10pm)
Dydd Gwener 20 Mehefin – 9am-1:30pm – Mynediad a Lefel 1 pob safle (Ffordd y Bers/Llaneurgain – 9.15-1.10pm)
Gallwch weld amserlenni bysiau’r coleg yma.
I gael rhagor o wybodaeth am fysiau a chludiant, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at ymholiadau@cambria.ac.uk.
Cwestiynau Cyffredin
Byddwch chi’n gallu cael brecwast am ddim yn y ffreutur os ydych chi’n llwglyd a bydd ein staff cyfeillgar yn dangos i chi lle i fynd.
Byddwn ni’n rhoi taleb cinio i chi ei defnyddio yn unrhyw un o’n caffis neu ffreuturau ar y safle.
Gwisgwch ddillad call sy’n addas ar gyfer eich cwrs.
Dewch â chi eich hun, a beiro a llyfr nodiadau gyda chi.
Rydym am i chi fwynhau eich diwrnod myfyriwr newydd. Os ydych chi’n bryderus ac angen cymorth ychwanegol ar gyfer eich llesiant pan fyddwch chi’n cyrraedd, cysylltwch â llesiant@cambria.ac.uk.
Byddwn ni’n cynnal ffeiriau cymorth i fyfyrwyr yn ystod y Diwrnod Croesawu Myfyrwyr ddydd Iau 19 Mehefin a dydd Gwener 20 Mehefin. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig i fyfyrwyr, clybiau a chymdeithasau, Cambria Heini a mwy. Hefyd, yn Iâl a Ffordd y Bers, bydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yno yn cynnig cymorth gyda chyllid ar gyfer gwisgoedd, citiau, ac ati, yn amodol ar gymhwysedd.
Rydyn ni’n deall fod pobl yn newid eu meddwl ac mae hynny’n iawn gennym ni. Cysylltwch â’r tîm Derbyniadau trwy anfon e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 007 a byddwn ni’n newid eich cais ar eich rhan chi.
Cysylltwch â’r tîm Derbyniadau trwy anfon e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 007, a byddwn ni’n tynnu eich cais yn ei ôl. Rhowch wybod i ni pam nad ydych chi eisiau astudio yn Cambria bellach i ni gael nodi hynny ar eich cais.
Os nad ydych wedi uwchlwytho llun ohonoch eich hun ar gyfer eich cerdyn adnabod Cambria eto, gwnewch hynny cyn gynted â phosib. Mae angen eich llun arnom ni i greu eich cerdyn adnabod personol er mwyn i chi gael mynediad o amgylch y coleg ac i’n mannau gwerthu bwyd.
Unrhyw gwestiynau arall neu bryderon?
Rydyn ni am i chi deimlo’n gyfforddus ac wedi ymlacio cyn y diwrnod, felly cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. Os ydy o’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni.
Os oes angen unrhyw gyngor / gwybodaeth ychwanegol arnoch chi, ffoniwch y Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at ymholiadau@cambria.ac.uk