Cadwch Eich Lle Rŵan Yn Ein
Cadwch eich lle yn ein digwyddiad agored y mae gennych chi ddiddordeb ynddo drwy ddewis y lleoliad isod.
Mae Digwyddiad Agored Hygyrch Cyntaf Cambria yn dechrau mewn...
Beth i'w Ddisgwyl
yn ein Digwyddiadau Agored Hygyrch
Dyma’r cyfle perffaith i archwilio popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad synhwyraidd-gefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am y cymorth sydd ar gael yma a thrafod eich anghenion, y cyrsiau sydd ar gael, cyfarfod â’n staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu popeth am ein cymorth dysgu a chynhwysiant.
Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiadau yma er mwyn eich galluogi chi i fwynhau’r digwyddiad agored mewn awyrgylch sy’n synhwyraidd-gyfeillgar heb heidiau mawr o bobl.
I wneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael, rydyn ni’n awgrymu i chi gyrraedd am 5.00pm.
Cyfleusterau Sy'n Arwain y Diwydiant
Ar Draws Saith Safle
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am y cyfleusterau ac ewch i weld y teithiau 3D i gerdded o amgylch y safle yn rhithwir!
Yn Cambria mae gennym ni 7 safle sy’n cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i ddysgwyr eu defnyddio. P’un a ydych chi am astudio yn ein Chweched Dosbarth, sy’n cynnig labordai Gwyddoniaeth, stiwdios drama a rhagor sy’n llawn offer neu os ydych chi’n chwilio am gwrs galwedigaethol lle gallwch chi ddysgu gan ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n benodol i’r diwydiant, mae gennym ni’r cwrs addas i chi.
Dewch o hyd i gwrs i chi!
Darganfyddwch pa gyrsiau sydd ar gael ar bob un o’n safleoedd.
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Glannau Dyfrdwy
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Llysfasi
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Iâl
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Ffordd y Bers
Darganfyddwch pa gyrsiau gallwch chi eu hastudio yn Llaneurgain
Gwybodaeth am ein Coleg
Cawsom ein sefydlu yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Ni ydy un o’r colegau mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.
Ar draws ein chwe safle, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn amser a rhan-amser gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â dros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.
Ffoniwch Ni
0300 30 30 007
Anfonwch E-bost
gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk
Oriau Agor
8:30 AM - 17:00 PM
Dewch i Ymweld â Ni
Dewch o Hyd i'n Safleoedd