Dweud Ie I'ch Lle
Dylai eich bod chi eisoes wedi cael negeseuon e-bost gennym ni sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig ar sut i Ddweud Ie i’ch lle gyda ni yn Cambria ddydd Iau 21 Awst (Diwrnod Canlyniadau TGAU).
Os nad ydych chi wedi cael e-bost, anfonwch e-bost at croeso@cambria.ac.uk gyda’ch enw llawn a’ch dyddiad geni a gofynnwch i’r e-bost gael ei anfon atoch chi eto.
Rydyn ni wrth ein bodd eich bod chi wedi cael cynnig i ymuno â ni ym mis Medi, a gallwn ni ddim aros i’ch croesawu chi! I Ddweud Ie I’ch Lle yn Cambria, rhowch wybod i ni eich bod chi dal yn bwriadu cymryd y cynnig.
Ddydd Iau 21 Awst, byddwch chi’n cael e-bost gennym ni gyda gwybodaeth bwysig ar sut i Ddweud Ie i’ch lle yn Cambria.
Ymgeiswyr Safon Uwch – Rhaid i chi ymweld â naill ai Chweched Glannau Dyfrdwy neu Chweched Iâl (yn dibynnu ar ba safle rydych chi wedi gwneud cais iddo) wyneb yn wyneb i Ddweud Ie i’ch lle. Rydyn ni’n eich chi annog yn gryf i fynd i’r coleg ddydd Iau 21 neu ddydd Gwener 22 Awst fel y gallwn ni wirio’ch graddau. Os na allwch chi fynd ar y dyddiadau hynny, gallwch chi ddod i’r safle unrhyw bryd ar ddiwrnodau’r wythnos hyd at hanner dydd ddydd Mercher 27 Awst 2025.
Ymgeiswyr Cyrsiau Galwedigaethol – Gallwch chi Ddweud Ie i’ch lle ar-lein o 21 Awst, a rhaid gwneud hynny erbyn hanner dydd, ddydd Mercher 27 Awst 2025.
Anfonwch e-bost at croeso@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267184 os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau.
Dewiswch yr opsiwn perthnasol isod i gael rhagor o wybodaeth ar sut i Ddweud Ie i’ch lle.
Sut ydych chi'n Dweud Ie I'ch Lle?
Ymgeiswyr Safon Uwch:
Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Ymgeiswyr Cyrsiau Galwedigaethol
Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Erbyn Pryd Oes Angen I Chi Ddweud Ie I'ch Lle?
Mae angen i chi Ddweud Ie I’ch Lle erbyn hanner dydd, dydd Mercher 27 Awst 2025.