Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

First Minister Visits Our Yale Site to Celebrate New £14m Health and Wellbeing Hub

Bu Eluned Morgan MS ar daith o amgylch adeilad arloesol Nant Coleg Cambria Iâl yn Wrecsam. Mae’r adeilad yn cynnwys amgylchedd dysgu trochol a Sba Iâl, cyfleuster o safon y diwydiant, sy’n cynnwys sawna, ystafell stêm, jacuzzi a bar bwyd iach.

Cafodd gyfle hefyd i gyfarfod myfyrwyr a staff, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol, Steve Jackson a’r Is-bennaeth Astudiaethau Technegol, Victoria Edwards. Yn ogystal â hyn, cafod y prif weinidog gyfle i drafod cynlluniau ar gyfer Canolfan Rhagoriaeth y Gymraeg newydd y coleg, Camu, gyda Llinos Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu’r Iaith Gymraeg.

Mae gwaith adeiladu yn digwydd ar hyn o bryd, a bydd y cyfleuster yn cynnwys estyniad i’r tu mewn a’r ystafelloedd dosbarth, mannau dysgu ychwanegol, caffi, technoleg arloesol a ‘hwb gweithio’n ystwyth’ i staff.

Mae’r ddau brosiect wedi sicrhau cefnogaeth ariannol drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae pobl ifanc sy’n cael profi amgylcheddau ysbrydoledig, lle mae dysgu’n cynnwys profiad gwaith bywyd go iawn, yn gyffredinol wedi’u paratoi’n well ac yn debygol o fod yn fwy hyderus ac yn barod i ddechrau arni pan fyddan nhw’n ymuno â’r gweithlu.

“Roeddwn i wrth fy modd yn gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datblygiad hwb iechyd a llesiant Nant. Bydd yn fan cychwyn rhagorol i ddysgwyr a bydd yn eu helpu i ennill cyflogaeth hirdymor gwerth chweil yn y diwydiant.”

Roedd Mr Jackson yn diolch i Mrs Morgan am ymweld â’r safle, sydd wrthi’n paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam ym mis Awst eleni.

“Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu’r Prif Weinidog i Goleg Cambria er mwyn arddangos ein canolfan addysg iechyd a llesiant newydd,” meddai.

“Mae’r amgylchedd dysgu trochol, yn ogystal â’n canolfan llesiant a’n sba, yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Roedd hefyd yn bleser gallu rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein datblygiad iaith Gymraeg cyffrous newydd, sydd wrthi’n cael ei adeiladu a fydd yn cryfhau ein hymrwymiad i addysg ddwyieithog.”

Dywedodd Mrs Edwards: “Mae’r datblygiadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau sy’n arwain y sector sy’n cefnogi gofynion diwylliannol a llesiant ein cymunedau yn ogystal â’r agenda sgiliau.”

“Rydyn ni’n falch o fod yn creu mannau dysgu blaengar sy’n ysbrydoli staff a myfyrwyr ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r Prif Weinidog am gymryd yr amser i ymweld â’r safle ac am ei chefnogaeth barhaus i addysg bellach yng Nghymru.”

I archebu triniaeth – Home – Ial Spa Wrexham neu i gael rhagor o wybodaeth ar aelodaeth neu gynigion arbennig ewch i’r wefan a dilyn @ialspawrexham ar gyfryngau cymdeithasol.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar Goleg Cambria, dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol ac ewch i’r wefan fan hyn: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost