Wedi’i chyflwyno gan y Gynghrair ar gyfer Myfyrwyr a Hyfforddeion Pobyddiaeth (ABST), mae’r Wobr yn anrhydeddu er cof am Hugh Weeks, cyn-Lywydd ABST ac unigolyn dylanwadol yn y diwydiant becws a melysion.
Gwobrwyir i fyfyriwr sydd nid yn unig yn rhagori yn eu crefft ond sydd hefyd yn dangos ymrwymiad rhagorol i’r diwydiant a’u cyfoedion.
Cynhaliwyd y seremoni ym Mecws Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam, lle cyflwynodd Sara Autton, Aelod o’r Pwyllgor Gweithredol a chyn-Lywydd ABST, y wobr ar ran y sefydliad.
“Mae gan Ella ddull o fentora eraill sy’n tywys ac yn arwain yn hytrach na gorchymyn a mynnu,” meddai Sara.
“Mae hi’n eiriolwr nid yn unig dros yr Ymgyrch Tasty Careers (sy’n ceisio hyrwyddo addysg a gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd) ond hefyd dros Brosiect The Burnt Chef sy’n darparu cefnogaeth ac ymwybyddiaeth ar faterion iechyd meddwl mewn amgylchedd pwysau uchel fel y diwydiannau lletygarwch ac arlwyo.”
“Ym mhopeth y mae wedi’i gyflawni hyd yn hyn, mae Ella wedi ymgorffori gwir ysbryd Gwobr Hugh Weeks. Mae hi’n rhagweithiol yn ei hymgais i ddysgu, ac nid yw’n ofni mentro i gyflawni cyfleoedd amrywiol a allai fod wedi bod yn frawychus iddi ychydig flynyddoedd yn ôl.”
Ychwanegodd: “Mae ei gweithgareddau elusennol a’i heiriolaeth dros ymwybyddiaeth o iechyd meddwl; ynghyd â’i hanogaeth o fyfyrwyr llai profiadol yn briodoleddau a werthfawrogwyd yn fawr gan Hugh, ac rwy’n siŵr y byddai’n cymeradwyo penderfyniad Cyngor ABST i gyflwyno ei wobr arbennig i unigolyn mor eithriadol.”
Cyflwynwyd Cwpan Hugh Weeks, gwobr arian parod o £250 a set o werslyfrau pobi arbenigol o Ganolfan Ragoriaeth Richemont i Ella.
Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd: “Rwy’n hynod o falch ac mae’n gymaint o fraint cael derbyn gwobr mor fawreddog. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Sara am ei holl gefnogaeth barhaus ac i Gyngor ABST am fy ngwobrwyo. Rwyf wedi gwirioni!”
Canmolodd Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol yng Ngholeg Cambria, gynnydd Ella dros y blynyddoedd diwethaf a dywedodd: “Rydym yn hynod falch o ddathlu cyflawniad eithriadol Ella wrth ennill Gwobr fawreddog Hugh Weeks. Mae’r anrhydedd hon yn dyst i’w hymrwymiad parhaus i’r diwydiant pobi a’i hymroddiad diysgog i waith elusennol o fewn y gymuned pobi.
“Mae cael Ella yn rhan o’n tîm Becws Iâl yn fraint wirioneddol, ac mae ei llwyddiant parhaus, gan gynnwys anrhydeddau blaenorol, yn ein hysbrydoli ni i gyd. Mae hi’n enghraifft ddisglair o’r dalent a’r ymroddiad rydym yn ei hyrwyddo yma yn y Coleg, ac ni allem fod yn fwy hapus drosti.”