Straeon Prentisiaethau

Prentisiaethau ydy’r opsiwn perffaith i ennill wrth ddysgu, cymerwch gip ar y straeon isod i glywed beth sydd gan ein Prentisiaid a’n partneriaid Cyflogwyr ei ddweud am eu profiad.

Gyrfa mewn Cigyddiaeth | Prentisiaeth Elis yn Siop Gig Daniel Morris

Sgiliau Tyfu | Prentisiaeth Lefel 3 Nikki yn Vivaldi Flowers

Sut mae prentisiaethau'n siapio Little Stars yng Nglannau Dyfrdwy

Halle Ennion

Halle Ennion

Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Ar Hyn o Bryd – Prentis Uwch yn The Secret Spa

“Ar hyn o bryd fy swydd ydi prentis uwch a gan fy mod i wedi cymhwyso ar lefel 2 a dwi wedi dechrau fy nghwrs lefel 3 yn barod.

“Fy swydd bresennol ydi adeiladu fy rhestr cleientiaid gyda’r salon, a dysgu fy sgiliau lefel 4 ar y swydd.

“Mi wnes i fwynhau popeth am astudio gyda Cambria eleni, ond uchafbwynt y flwyddyn oedd cystadlu yn sgiliau Cymru ac ennill aur ar gyfer y coleg yn y categori therapydd harddwch.

“Mae’r cwrs gwnes i ei astudio wedi helpu’n fawr gyda deall harddwch yn ei gyfanrwydd ac wedi fy mharatoi gyda’r holl wybodaeth dwi ei hangen.”

Dangos Rhagor
Head and shoulders photo of Karol Gorzym

Karol Gorzym

Wedi Astudio – Lefel 3 mewn Meddalwedd TG, Gwefannau a Thelecomau i Weithwyr Proffesiynol

Ar Hyn o Bryd – Gweithio yn Maelor Foods

“Dwi wedi dysgu cymaint wrth gwblhau’r cymhwyster yma, dwi wedi llenwi’r bylchau yn fy ngwybodaeth TG, yn enwedig am rwydweithiau a rhwydweithio.

“Dwi wedi ennill rhagor o sgiliau, wedi bod yn fwy proffesiynol, ac wedi cael codiad cyflog ers i mi orffen  y cymhwyster!”

Dangos Rhagor
Photo of Naomi Spaven

Naomi Spaven

Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi

“Mae’r cwrs wedi rhoi gymaint o hyder i mi ac wedi fy helpu gyda fy nhasgau bob dydd yn y gwaith.

“Mae cael cymorth fy nhiwtor, Daryl, wedi bod yn amhrisiadwy – mae wedi bod wrth law i’n helpu i gydag unrhyw ymholiadau am y cwrs, ac mae wedi fy helpu gydag unrhyw gwestiynau am y gweithle hefyd!

“Mae’n hyfryd cael cymhwyster mewn pobi a dwi’n edrych ymlaen yn arw at symud ymlaen i Lefel 3.”

Dangos Rhagor
Image of Alex Evans

Alex Evans

Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Garddwriaeth

Ar Hyn o Bryd – Gweithio yng Nghlwb Golff Maesdu

“Mi wnes i ddechrau’r cymhwyster yma i symud ymlaen ac ennill rhagor o wybodaeth yn fy ngwaith. Mi wnes i ennill rhagor o wybodaeth am afiechydon a phlâu penodol a sut i’w rheoli nhw mewn modd diogel wrth ddysgu amrywiaeth o bethau am iechyd a diogelwch yn y gweithle.

“Yn sicr mae wedi bod yn fuddiol i mi yn fy ngyrfa wrth gael ychydig rhagor o wybodaeth wrth wneud dyletswyddau/tasgau penodol. Rydych chi’n dysgu llawer o bethau eraill byddech chi byth wedi eu darganfod heb wneud y gwaith trwy’r coleg.”

Dangos Rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

mail svg

E-bost

Apprenticeships bilingual logo
Welsh government logo with a transparent background