main logo

Sgiliau Cyfweliad a CV Siop Swyddi

Sgiliau Cyfweliad a CV Siop Swyddi

Sgiliau Cyfweliad

Paratoi

Meddyliwch am: 

  • Pam ydych chi eisiau gwneud y swydd
  • Pa gwestiynau sydd gennych chi am y swydd/cwmni
  • Beth ydy eich cryfderau a gwendidau
  • Enghreifftiau bywyd go iawn gallwch chi siarad amdanyn nhw 

Beth i’w wisgo

  • Cynlluniwch beth rydych chi am ei wisgo’r diwrnod cyn eich cyfweliad
    Darganfyddwch god gwisgo’r cwmni a gwisgwch ddillad i gyd-fynd â hyn
    Peidiwch â gwisgo esgidiau/dillad anghyfforddus na gormod o bersawr

Ar y diwrnod

  • Cynlluniwch i gyrraedd yn gynharach na’ch amser cyfweliad fel nad ydych chi’n hwyr
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n diffodd eich ffôn
  • Ceisiwch ymlacio – anadlwch yn ddwfn a chofiwch sipian o ddŵr

Yn ystod y cyfweliad

  • Cymerwch eich amser yn ateb y cwestiynau
  • Siaradwch yn glir a pheidiwch â rhegi
  • Rhowch enghreifftiau
  • Byddwch yn gadarnhaol
  • Atebwch yn onest

Ar ôl y cyfweliad

  • Os maen nhw’n cynnig y swydd i chi, cofiwch ddiolch iddyn nhw 
  • Os nad ydych chi’n cael y swydd, gofynnwch am adborth

Sgiliau/Fformatio CV

Gwybodaeth Bersonol

Enw a Manylion Cyswllt
Cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn.

Proffil Personol
4-5 llinell yn crynhoi eich hun: personoliaeth, galluoedd, cymeriad a chryfderau – gwybodaeth sy’n sefyll allan sy’n berthnasol i’r mathau o swyddi rydych chi’n gwneud cais amdanyn nhw.

Sgiliau Craidd
Pwyntiau bwled o’r sgiliau gan grybwyll yn fyr pam rydych chi’n meddwl bod gennych chi’r sgiliau yma.

Addysg a Chymwysterau
Rhestr gyda’r coleg/ysgol gyntaf diweddaraf, cwrs ac unedau/cymwysterau, dyddiadau a graddau.

Cyflogaeth/Profiad Gwaith
Y mwyaf diweddar yn gyntaf- enw’r sefydliad, dyddiadau, swydd a chyfrifoldebau. Cofiwch sôn am unrhyw waith gwirfoddol.

Diddordebau/Gwybodaeth Ychwanegol
Unrhyw ddiddordebau sydd wedi datblygu eich sgiliau, prosiectau rydych chi wedi’u gwneud yn yr ysgol/coleg neu gartref. Cyflawniadau fel Gwobr Dug Caeredin, trwydded yrru, ac ati.

Hyd
1-2 dudalen – bydd recriwtwyr prysur yn edrych ar y CV, mae angen iddo ddal eu sylw ar unwaith.

Fformat
Defnyddiwch gynllun a ffont syml a chlir i’w gwneud hi’n hawdd i gyflogwyr ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn CV?
Bydd cyflogwyr yn edrych ar eich sgiliau a’ch profiad/cymwysterau i weld pa mor addas y gallech chi fod i wneud y swydd a ffitio i mewn i’w sefydliad.

Dilynwch ni ar Gyfryngau Cymdeithasol i gael rhagor o gynnwys trwy gydol Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Play Video

Siaradwch â'r tîm

Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

mail svg

E-bost

Apprenticeships bilingual logo
Welsh government logo with a transparent background