main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

llysfasi-hero

Cynhelir y gynhadledd ddeuddydd hon yng Ngholeg Cambria Llysfasi, Rhuthun, o ddydd Mercher 1 Tachwedd.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, bydd yn agor gydag anerchiad gan gyn-ohebydd economeg y BBC Sarah Dickins, sydd yn rhan o grŵp her bwyd Cymru Sero Net 2035 fel ‘aelod gwneud i gynaliadwyedd ddigwydd’.

“Mae gan gynhyrchu bwyd ran ganolog i’w chwarae yn y frwydr i arafu newid hinsawdd. Mae’r ffordd rydyn ni’n tyfu cnydau ac yn magu anifeiliaid, prosesu bwyd a threfnu ein cadwyni cyflenwi bwyd yn rhan sylweddol o allyriadau carbon y DU,” meddai Sarah.

“Ar yr un pryd mae incwm gweithwyr fferm yng Nghymru yn isel ac i lawer o bobl eraill mae argaeledd bwyd ffres fforddiadwy yn her. Fodd bynnag, mae gennym gyfle i newid ein systemau mewn ffordd a allai helpu cartrefi, cymunedau a’r blaned.”

Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau ar ystod eang o bynciau ar draws bwyd a ffermio, gan gynnwys bywyd gwyllt a ffermio, arlwyo prydau ysgol, ffermydd sirol, garddwriaeth, rheoli dŵr, prosiectau bwyd cymunedol a chostau byw. Bydd yn gofyn sut y gallwn greu gwell cyfleoedd i dyfu mwy o fwyd yn gynaliadwy yng Nghymru.

“Mae cael y gynhadledd yn Llysfasi yn golygu y gallwn groesawu pobl o ogledd ddwyrain Cymru a thynnu ar ddiwylliant bwyd bywiog yr ardal,” meddai trefnydd y gynhadledd Jane Powell.

“Ni fu erioed fwy o angen i ysgogi cymdeithas sifil i greu byd gwell, trwy fwyd a ffermio,” ychwanegodd.

Dywedodd Pennaeth Llysfasi Elin Roberts: “Mae bwyd a ffermio yn cael effaith enfawr ar yr economi yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, felly mae hwn yn ddigwyddiad pwysig iawn a fydd yn dod â’r gymuned ffermio ynghyd â chynhyrchwyr, cyflenwyr a rhanddeiliaid i edrych ar sut y gallwn i gyd weithio gyda’n gilydd i fanteisio ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael, yn ogystal â gweithio ar atebion i’r heriau presennol mewn amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.

“Mae’n fraint i ni gynnal y gynhadledd, gan ei bod hefyd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, yr amgylchedd a datblygiadau technolegol arloesol yn y sector ffermio, sydd i gyd yn faterion yr ydym ar flaen y gad gyda nhw yma yng Ngholeg Cambria Llysfasi.”

Mae’r gynhadledd annibynnol yn cael ei dwyn ynghyd gan dîm o staff a gwirfoddolwyr o amrywiaeth o sefydliadau perthnasol sy’n angerddol am ddatblygu a chefnogi systemau ffermio a bwyd cynaliadwy, teg a gwydn.

Nodwedd bwysig o’r gynhadledd eleni fydd arlwyo gan Fwyty Iâl yn Wrecsam, sy’n defnyddio cynhwysion organig a lleol, gan adlewyrchu’r gorau o fwyd Cymru .

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost