Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Seven of the 11 students who will run the pop-up shop present some of their favourite finds at Chester’s Hope House store

Bydd myfyrwyr ar y cwrs Lefel 3 mewn Busnes a Manwerthu Ffasiwn yn agor siop ddillad dros dro ar safle Glannau Dyfrdwy yn fuan i godi arian ar gyfer hosbis plant Hope House Tŷ Gobaith yn ogystal â datblygu eu haddysg.

Mae saith o fyfyrwyr wedi bod yn siop newydd Hope House Tŷ Gobaith yng Nghaer ar 8 Ionawr i ddewis dillad chwaethus i’w hailwerthu ac i gyflawni elfennau o’u gwaith cwrs.

Esboniodd y tiwtor, Beth White: “Dyma brosiect hynod gyffrous i’r myfyrwyr weithio arno ac mae’n cyflawni elfennau Gwirfoddoli a Marchnata Gweledol o’u Bagloriaeth Cymru.

“Bydd yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o arweinyddiaeth, cyfrifoldeb a gwell dealltwriaeth o ba mor bwysig yw lleihau gwastraff yn y sector manwerthu.

“Mae cymaint mwy o ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc ynglŷn â’r ffaith bod dillad ail-law yn gallu bod yn chwaethus. Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni’n anelu i dargedu myfyrwyr yn ogystal â’r staff eleni.”

Wrth ymweld â’r siop dyma’r grŵp yn edrych trwy ddegau o fagiau o stoc gan ddewis eu hoff ddarnau a chwilio am frandiau a meddwl beth fyddai o ddiddordeb i’w marchnad.

Meddai’r myfyrwyr, Phobe a Freddy: “Mae cyfuniad anhygoel o steiliau yma ac mae’n rhaid meddwl yn galed am bwy fyddai’n prynu pa eitem.

“Mae’n brofiad newydd ac yn rhywbeth gwahanol iawn i weithio arno.”

Bydd y stoc sydd wedi cael ei ddewis yn cael ei ddanfon i’r coleg yn barod ar gyfer agor y siop 5 diwrnod ar 26 Ionawr.

Dywedodd Rheolwr Ardal Manwerthu siopau’r hosbis, Mark Hunt-Gittins: “Mae wedi bod yn wych gallu helpu gyda’r fenter hon ac i roi rhywbeth yn ôl i ddyfodol y diwydiant ffasiwn a manwerthu.

“Hefyd drwy godi arian mae’r myfyrwyr yn ein helpu ni gyda’n gwaith o ofalu am blant lleol sy’n byw gyda chyflwr sy’n peryglu bywyd a’u teuluoedd.

“Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fyddan nhw’n ei arddangos a faint o arian a fydd yn cael ei godi.”

Bydd yr elusen yn helpu’r siop dros dro gyda deunyddiau marchnata, raciau a’r manacinod hollbwysig.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost