Wedi’i ariannu drwy Raglen Taith Llwybr 2 a’i gydlynu gan Colegau Cymru mae’r prosiect yn uno colegau o bob cwr o Gymru a Chanada i rannu arbenigedd ac i ddatblygu strategaethau i atal a herio ymddygiadau niweidiol.
Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad Estyn yn 2023 ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn addysg bellach ac mae galw am fwy o ffocws ar addysg ynghylch parch, cydraddoldeb a pherthnasoedd iach.
Mae Arweinydd Tegwch a Pherthyn Cambria, Alice Churm, wedi chwarae rhan allweddol o ran cyfranogiad y coleg ac wedi arwain ar elfennau allweddol y bartneriaeth ac wedi helpu i ddechrau sgyrsiau am gynhwysiant ac ymddygiad cadarnhaol ymhlith dysgwyr a staff.
Yn gynharach eleni fe ymunodd â chynrychiolwyr o golegau eraill yng Nghymru ar ymweliad â Montréal yng Nghanada i gyfarfod ag addysgwyr, ymchwilwyr ac elusennau sy’n gweithio i frwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd a pholareiddio cymdeithasol.
Roedd yr ymweliad yn edrych ar sut y gall gwahanol systemau addysg gydweithio i greu amgylcheddau dysgu mwy diogel a chynhwysol.
“Roedd Canada yn brofiad anhygoel ac mor werthfawr,” meddai Alice.
“Dyna ni’n cyfarfod ymarferwyr ac elusennau sy’n canolbwyntio ar gefnogi genethod a merched ifanc a gydag ymchwilwyr sy’n astudio effaith rhaniad a chasineb at ferched ymhlith pobl ifanc.
“Dyma ni hefyd yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol gan rannu arferion gorau, dysgu oddi wrth ein gilydd a mabwysiadu dull cenedlaethol o fynd i’r afael â’r materion hyn.”
“Roedd y bartneriaeth honno’n parhau i fodoli pan ymwelodd y grŵp â safle Iâl Cambria yn Wrecsam.
Yn ystod eu hymweliad dyma nhw’n cymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a digwyddiadau yn edrych ar gydraddoldeb rhywedd, ymddygiad cadarnhaol a pharch mewn addysg.
Mae’r prosiect wedi cynnwys dau ddigwyddiad nodedig yng Nghaerdydd a Wrecsam, dan arweiniad y siaradwr rhyngwladol clodwiw Matt Brown sy’n sylfaenydd y mudiad byd-eang She Is Not Your Rehab.
Yn wreiddiol o Seland Newydd, lansiodd Matt a’i wraig Sarah y sefydliad ar ôl trawsnewid ei siop barbwr yn lle diogel i ddynion siarad am drawma, atebolrwydd a gwella.
Mae ei stori bwerus – wedi’i llunio gan ei brofiadau ei hun o drais ac adferiad – wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd ledled y byd i herio stereoteipiau niweidiol, i wrthod cylchoedd o gam-drin ac ailddiffinio gwrywdod trwy empathi a pharch.
“Roeddem mor falch o groesawu Matt, roedd ei neges yn atseinio’n glir gyda dysgwyr a staff, ac roedd yr adborth yn anhygoel,” meddai Alice.
“Roedd y sgyrsiau’n gyfle i bobl sgwrsio’n agored ac yn onest am barch, caredigrwydd a newid.”
Mae cyfranogiad Coleg Cambria yn y prosiect yn cyd-fynd â’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd sydd â’r nod o ymgorffori cynhwysiant “yn emosiynol, yn amgylcheddol ac yn addysgol” ar draws pob safle.
Mae’r coleg hefyd yn datblygu Strategaeth Ymddygiad Cadarnhaol i sicrhau bod gan ddysgwyr y cymorth, yr arweiniad a’r llais sydd eu hangen arnynt i helpu adeiladu diwylliant o ddiogelwch a pherthyn.
Ychwanegodd Lizzie Stevens, Cyfarwyddwr Cynhwysiant a Chynnydd Cambria: “Ein ffocws yw creu diwylliant cadarnhaol o fewn ein coleg a’n cymunedau.
“Drwy gydweithio ledled Cymru ac yn rhyngwladol, gallwn rannu syniadau ac ysbrydoli newid parhaol mewn agweddau ac ymddygiad.”