main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

wellbeingcambria2

Gwnaeth grŵp o ddysgwyr o Goleg Cambria Iâl ddarparu triniaethau llesiant am ddim i glinigwyr, myfyrwyr meddygol, a gweithwyr gweinyddol yn yr Adran Addysg Feddygol a Deintyddol yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Roedd y triniaethau’n cynnwys torri gwallt a thylino’r pen.

Gwnaeth Rheolwr Masnachol Trin Gwallt a Harddwch Cambria, Sarah Edwards ymuno â’r grŵp cadarn o 12 ar gyfer y digwyddiad cymunedol, a oedd wedi’i ddylunio i roi seibiant haeddiannol a chefnogi iechyd a llesiant i weithwyr y GIG.

“Roedd ein dysgwyr Lefel 2 a Lefel 3 mewn Trin Gwallt a Harddwch yn arbennig, roedd yn ddiwrnod gwych, ac roedden ni mor falch o fod yno,” meddai hi.

“Roedd y sesiynau yn boblogaidd iawn a chawsom ni ymateb gwresog iawn gan bawb yn yr ysbyty, roedd hyn yn galonogol iawn, felly byddwn ni’n dychwelyd yn aml i barhau gyda’r bartneriaeth yma.

“Mae’r coleg yn chwilio am ffyrdd newydd o weithio gyda sefydliadau yn ein cymuned o hyd, felly byddwn ni’n ceisio meithrin cysylltiadau tebyg yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Sarah: “Roedd hefyd yn gyfle i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd mewn sefyllfa go iawn, yn hytrach nag amgylchedd yr ystafell ddosbarth.

“Maen nhw ar eu blwyddyn gyntaf felly roedd pwysau arnyn nhw, yn enwedig yn sgil heriau’r pandemig, ond gwnaeth bob un ohonyn nhw ymdopi â hynny yn wych.

“Rydyn ni’n diolch yn fawr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r holl staff am y croeso cynnes ac am ein galluogi ni i fod yno ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd yn ôl y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Andrea Taylor-Clutton, Rheolwr Addysg Feddygol a Deintyddol Ysbyty Maelor Wrecsam: “Mae iechyd a llesiant ein clinigwyr, myfyrwyr a staff gweinyddol yn hynod o bwysig i’r Adran Addysg Feddygol a Deintyddol.

“Felly roeddwn ni wrth ein bodd i gael gweithio gyda Choleg Cambria Iâl i ddarparu Diwrnod Ymlacio Iechyd a Llesiant i’n cydweithwyr.

“Cafodd amrywiaeth o driniaethau llesiant eu darparu gan staff arbenigol a myfyrwyr y coleg ac roedd y diwrnod yn hynod o boblogaidd, gwnaeth pawb weithio’n hynod o galed i sicrhau bod ein cydweithwyr yn cael profiad ymlacio rhagorol a phroffesiynol – mae’r adborth wedi bod yn arbennig.”

Ychwanegodd hi: “Hoffwn i gymryd y cyfle yma i ddiolch Cambria a Karen Jones, ein Cydlynydd Iechyd a Llesiant, am eu gwaith caled ysgubol er mwyn sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiannus. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y bartneriaeth yma yn parhau.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost