Home > Rhybudd o Dywydd Gwael
Safleoedd y Coleg Wedi Cau Oherwydd Tywydd Gwael 08/02/2024
Yn dilyn y rhybudd o dywydd garw rydym wedi penderfynu cau’r safleoedd Cambria canlynol: Pob Safle
Ni fydd trafnidiaeth y Coleg i’r safleoedd canlynol ac oddi yno: Pob Safle
Dyddiad: 08.02.2024
Cofiwch roedd pob safle eisoes i fod ar gau i fyfyrwyr ar gyfer hyfforddiant staff ddydd Gwener (09.02.24).
Bydd safleoedd y coleg yn ailagor ddydd Llun 19.02.24 yn dilyn hanner tymor
Pwysig
Bydd gwersi yn symud ar-lein yn unol â’r amserlenni presennol.
Bydd ein staff yn gweithio ar y safle ac o bell a byddant ar gael i fyfyrwyr a phrentisiaid dros y ffôn a dros e-bost yn ystod y cyfnod hwn.
Dylai myfyrwyr a phrentisiaid fewngofnodi i Google Classroom er mwyn cyrchu eu gwersi a fydd yn cael eu cynnal yn rhithwir.
Mae’n rhaid i unrhyw fyfyriwr sy’n cael trafferth cyrchu eu gwersi gysylltu â’u tiwtor yn uniongyrchol dros e-bost i sicrhau nad ydynt yn cael eu marcio’n absennol o’r wers.
Arhoswch yn y tŷ, mewngofnodwch a chwblhewch eich gwersi (er mwyn osgoi colli unrhyw waith) ac yn bwysicach na dim, arhoswch yn ddiogel.
I rieni gyda phlant sy’n mynd i Feithrinfa Toy Box, sylwch y bydd Toy Box ar agor ddydd Iau 8 Chwefror 2024.
Pryd a ble i wirio am ddiweddariad?
Byddwn yn diweddaru prif wefan y coleg, Hwb Myfyrwyr, Ap Cambria, ac ein sianeli cyfryngau cymdeithasol erbyn 7am bob dydd.