main logo

EICH CYNORTHWYO CHI A'CH PLENTYN

A tutor in a classroom helping a student who has a laptop and work in front of them
Addewid Coleg Cambria

Wrth i’ch person ifanc ddechrau yn y coleg am y tro cyntaf, bydd bywydau y ddau ohonoch yn newid, yn ogystal â’r ffyrdd y byddant eich angen chi. Y peth pwysicaf yw y byddant eich angen chi o hyd. Byddwn ni yng Ngholeg Cambria yn cynorthwyo eich plentyn i ennill y sgiliau a’r cymwysterau cywir i’w paratoi nhw ar gyfer bywyd ar ôl y coleg, ond ar gyfer datblygu personol, annibyniaeth a sefydlogrwydd, byddant yn chwilio am gymorth gennych chi.

Gall dysgu i lywio’r rhan newydd yma o’u bywyd fod yn frawychus ac yn heriol, i chi yn ogystal ag iddyn nhw, a dyna pam rydym yma i’ch cynorthwyo chi a’ch plentyn.

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn annog eich plentyn i gyflawni eu potensial llawn, gan gynyddu eu hyder a rhoi profiadau go iawn iddynt i sicrhau pan fyddant yn gadael y coleg eu bod yn barod ar gyfer eu camau nesaf.

Bydd myfyrwyr yn astudio mewn cyfleusterau gwych, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a byddant yn cael eu haddysgu gan staff arbenigol, a fydd yn rhoi’r offer angenrheidiol iddynt ar gyfer addysg uwch, prentisiaeth neu yrfa wych.

Bydd pob myfyriwr yn cael cymorth anogwr cynnydd a fydd yn cyflwyno ein rhaglen MADE sef Cynyddu Cyrhaeddiad a Datblygu Pawb i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i lwyddo a byddant yn cael sesiynau hyfforddi grŵp a thiwtorialau un i un rheolaidd.

Mae ein perthynas gyda myfyrwyr yn cynnwys chi fel eu rhiant neu warcheidwad, felly mae pob croeso i chi gysylltu â gwasanaethau myfyrwyr os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch cynnydd eich plentyn yn y coleg. Byddwn yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda chi drwy adroddiadau a nosweithiau rhieni hefyd i roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’u cynnydd.

Hoffwn glywed eich safbwyntiau ar brofiad eich plentyn yn Cambria. Er mwyn i ni gael yr wybodaeth bwysig hon, bob blwyddyn rydym yn cysylltu â rhieni trwy ein Harolwg Rhieni blynyddol.

MADE Logo

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost