Yn ddathliad o foduro a cherddoriaeth, mae’n edrych yn debyg y bydd yr ŵyl yma sydd am ddim yn fwy ac yn well nag erioed.
Yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 21 Mehefin, bydd bandiau byw, adloniant a gemau, stondinau masnach, stondinau bwyd a diod a theithiau tywys o amgylch safle Ffordd y Bers i deuluoedd a darpar fyfyrwyr.
Bydd yna chwaraeon a cheir clasurol hefyd – gan gynnwys Ferrari Modena a Porsche – llwyth o feiciau modur newydd, cerbydau epig a hyd yn oed peiriannau milwrol.
Dywedodd Karl Jackson, Arweinydd Safle a Phennaeth Cynorthwyol ar gyfer Sefydliad Technoleg £10m yn Ffordd y Bers: “Alla’ i ddim credu mai dyma bumed digwyddiad Olwynion y Bers! Mae amser yn hedfan ond mae wedi bod yn anhygoel gweld y digwyddiad yn mynd o nerth i nerth, gyda phobl o bob oed yn ymweld ac yn mwynhau’r ceir a’r beiciau, y gerddoriaeth a phopeth arall sydd gennym ni yn mynd ymlaen.
“Er ein bod ni’n canolbwyntio ar yr agwedd peirianneg a moduro, mae rhywbeth at ddant pawb, a dyw’r haf yma ddim gwahanol gyda rhai o fandiau a chantorion gorau’r ardal yn ymddangos, dewis o fwyd a diod, a busnesau lleol yn gwerthu popeth o eitemau crefft a gemwaith i gynnyrch lleol a mwy.
“Croeswch eich bysedd am haul! Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld i gyd 21 Mehefin.”
Mae parcio am ddim ar y safle. I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle ar gyfer stondin yn Olwynion y Bers, e-bostiwch karl.jackson@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267809.
I gael tocynnau am ddim a rhagor o wybodaeth, ewch i Bersham Road Wheels Event Tickets, Sat, Jun 21, 2025 at 10:00 AM | Eventbrite.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.