main logo

Coedwigaeth a Chefn Gwlad

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae Prentisiaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o ddechrau yn y diwydiant cyfrifeg.

Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored, yn sefyll o dan ganopi o goed neu’n cerdded drwy goetir â’r ddaear wedi’i orchuddio â mwsogl, yna byddai Prentisiaeth mewn Coed a Phren yn ddelfrydol i chi. 

O ddatrys dirgelion gwahanol rywogaethau coed i ddeall sut maen nhw’n ffynnu mewn ecosystemau amrywiol, byddwch yn ymchwilio i galon y goedwig ac yn dysgu celfyddyd coedyddiaeth, meistroli’r sgiliau i ofalu am goed a’u trin mewn tirweddau trefol a naturiol.

Paratowch i gael eich dwylo yn fudr gyda gwaith ymarferol drwy gydol y flwyddyn a’r angen am sgiliau tîm a chyfathrebu da.

Diploma Lefel 2 mewn Coed a Phren yn y Gwaith

Gofyniad Mynediad – Gweithio mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesiad – Asesiad yn y gwaith, gweithlyfrau a gwaith theori

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 3 mewn Coed a Phren yn y Gwaith

Gofyniad Mynediad – Gweithio mewn diwydiant perthnasol, cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth 

Hyd Arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesiad – Asesiad yn y gwaith, gweithlyfrau a gwaith theori

Lleoliad – Gweithle

A wyddech chi?
Mae gan y sector coedwigaeth yng Nghymru Werth Ychwanegol Gros blynyddol o £499.3 miliwn ac mae’n cyflogi rhwng 8,500 ac 11,300 o bobl.
[Cyfoeth Naturiol Cymru, Mehefin 2023]

Awgrym Gwerth Chweil

Cysylltwch â busnesau lleol a rhowch gopi o’ch CV iddyn nhw, efallai nad ydyn nhw erioed wedi meddwl am logi Prentis o’r blaen!

Mae’r holl Brentisiaethau’n cynnwys y canlynol:
  • Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
  • Cymhwyso Rhif
  • Cyfathrebu

Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi ddechrau prentisiaeth, gallwch chi gael cyflogaeth eich hun neu gallwch chwilio trwy ein swyddi gwag, neu siarad â’n tîm ymroddedig. Pa bynnag lwybr rydych chi’n penderfynu sy’n iawn i chi, rydyn ni yma i’ch helpu chi i lwyddo.

Ydych chi'n barod i ddarganfod rhagor am ymgeisio ar gyfer prentisiaeth?

Ydych chi'n Gyflogwr ac eisiau darganfod rhagor am brentisiaethau?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost