Background Splash

Gan Alex Stockton

Tom Billington

Yn gyn-ddysgwr Safon Uwch yng Ngholeg Cambria, mae Tom yn ei bedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Princeton yn New Jersey, lle mae’n rhagori yn ei astudiaethau ac mewn gweithgareddau allgyrsiol.

Yn ogystal â bod yn gapten y tîm Codi Hwyl, mae’n aelod o grwpiau fel Cangen Myfyrwyr Cymdeithas Peirianwyr Sifil America, Peirianwyr Heb Ffiniau a chlybiau Pensaernïaeth a Chadw Gwenyn Princeton.

Gan ganmol Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy Cambria a’r Pennaeth Mim Riddell am y gefnogaeth a gafodd yno, mae Tom – a gyflawnodd A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Ffiseg, Dylunio Cynnyrch, a’r Dystysgrif Her Sgiliau – yn edrych ymlaen at gwblhau BSc mewn Peirianneg a gradd Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol gydag is-bynciau mewn Astudiaethau Trefol a Phensaernïaeth.

Yna mae’n gobeithio mynd ymlaen i astudio gradd Meistr mewn Pensaernïaeth neu ddechrau gyrfa mewn cynllunio a dylunio trefol.

Gan ddisgrifio ei brofiad fel un “trawsnewidiol”, dywedodd Tom, o’r Rhyl: “Mae astudio yn yr Unol Daleithiau – ac ym Mhrifysgol Princeton yn benodol – wedi cynnig cyfleoedd heb eu hail.

“Er bod yr ysgolheigion yn hynod o drwyadl, mae cefnogaeth, angerdd a chwilfrydedd y bobl o’m cwmpas wedi fy ysbrydoli i anelu ymhellach nag y meddyliais oedd yn bosib.”

Gan ganmol Goleg Cambria am ei gefnogaeth ddiysgog, yn enwedig yn ystod proses ymgeisio gymhleth yr Unol Daleithiau, ychwanegodd: “Er bod fy llwybr yn un anghonfensiynol, roedd staff Chweched Glannau Dyfrdwy yn eangfrydig ac yn galonogol iawn.

“Roedd Mim, yn arbennig, yn ffigwr allweddol – yn fy arwain i drwy’r gwaith paratoi ar gyfer cyfweliadau prifysgol yn y DU a system ymgeisio unigryw’r Unol Daleithiau.”

Diolchodd hefyd i’r darlithwyr a’r timau bugeiliol ac annog.

“Allwn i ddim fod wedi cyflawni pum gradd A* a chael lle ym Mhrifysgol Princeton hebddyn nhw,” meddai Tom.

Ychwanegodd: “I unrhyw un sy’n gwneud arholiadau neu’n disgwyl am eich canlyniadau, peidiwch â phoeni, does dim angen i chi wybod yn union beth ydych chi am ei wneud.

“Byddwch yn agored i bosibiliadau newydd – hyd yn oed os ydyn nhw’n ymddangos tu hwnt i’ch cyrraedd. Helpodd Cambria fi i sylweddoli nad oes unrhyw freuddwyd yn rhy uchelgeisiol.”

Wedi’i sefydlu ym 1746, mae Prifysgol Princeton yn un o’r sefydliadau hynaf a mwyaf ei fri yn yr Unol Daleithiau. Wedi’i restru’n gyson ymhlith prifysgolion gorau’r byd, mae Princeton yn adnabyddus am ei drylwyredd academaidd, ei staff o’r radd flaenaf, a’i ymrwymiad i ymchwil ac arloesedd.

Wrth longyfarch Tom, dywedodd Mim: “Rydyn ni’n falch dros ben ohono a’r cyfan y mae’n ei gyflawni ym Mhrifysgol Princeton.

“Roedd Tom wastad yn ddysgwr gwych – yn chwilfrydig, yn ymroddedig, ac yn garedig – ac nid yw’n syndod ei weld yn ffynnu y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae wir yn haeddu pob tamaid o’i lwyddiant.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost