Mae Coleg Cambria yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gyffrous gyda Paris Saint-Germain Academy UK, gan ddod â hyfforddiant pêl-droed o safon fyd-eang i Ogledd Cymru trwy lansio rhaglen Academi PSG newydd sbon yn y coleg.
Yn lansio ym mis Medi 2025 bydd yr academi pêl-droed yn cynnig y cyfle i bobl ifanc 16-19 oed i hyfforddi o dan fethodoleg enwog Paris Saint-Germain sef un o glybiau pêl-droed mwyaf eiconig y byd a gwneud hynny wrth astudio’n llawn amser yn un o golegau addysg bellach arweiniol y DU.
Gan gyfuno model hyfforddi Academi PSG gyda darpariaeth academaidd gadarn Coleg Cambria bydd y rhaglen yn creu llwybrau unigryw i fyfyrwyr ddatblygu eu doniau pêl-droed a chyflawni eu nodau addysgol.
Prif nodweddion Academi PSG y DU a Choleg Cambria yw:
- Hyfforddi yn y dull Parisaidd gyda hyfforddwyr â chymhwyster UEFA
- Mynediad at gyfleusterau a thechnoleg perfformio o’r radd flaenaf
- Gemau cystadleuol
- Rhaglenni addysgiadol yn cynnwys BTEC, Lefel A a diplomau’n gysylltiedig â chwaraeon
- Llwybrau amlwg i brifysgol, cyfleoedd proffesiynol ac addysg bellach
Meddai Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol:
“Mae Coleg Cambria yn falch o gyhoeddi lansiad cydweithrediad addysgol gwych gydag Academi PSG – y cyntaf a’r unig un o’i fath yng Ngogledd Cymru. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar y cyd o ddarparu hyfforddiant a datblygiad academaidd o’r radd flaenaf mewn amgylchedd cynhwysol lle mae’n bosib i unrhyw berson ifanc, beth bynnag eu cefndir neu allu, i gael y cyfle i ffynnu ar y cae ac oddi arno.”
Meddai Alex Harrap, Rheolwr Gyfarwyddwr Academi Paris Saint-Germain y DU:
“Rydym yn eithriadol o falch o fod yn bartner i Goleg Cambria wrth gynnig rhaglen na fydd yn unig yn codi’r bar ar gyfer pêl-droed yn yr ardal ond hefyd yn creu cyfleoedd all newid bywydau bobl ifanc. Y nod yw datblygu cymeriad, disgyblaeth ac uchelgais ledled y rhanbarth.”
Bydd yr academi yn gweithredu o Safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria gyda myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau o’r radd flaenaf ac amgylchedd ddysgu gefnogol wedi’i deilwra i gael cydbwysedd academaidd a datblygiad athletaidd.
Mae’r broses gwneud cais ar gyfer 2025 ar agor rŵan gyda diwrnodau agored a threialon wedi’u trefnu. Mae darpar fyfyrwyr a’u rhieni yn cael eu hannog i gofrestru eu diddordeb yn gynnar gan fod disgwyl i’r galw am lefydd fod yn uchel.
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: https://www.cambria.ac.uk/ein-cyrsiau/?lang=cy
I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan yn y treialon neu fynychu diwrnod agored cysylltwch â: Trial Booking Form – PSG Academy UK