Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Alex Roberts 1 (1)

Mae dyfodol addawol o flaen y chwaraewr jiwdo Alex Roberts wedi iddo gael canlyniadau Safon Uwch uchel yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Brenin Caer, mae Alex wedi cael cynnig cadarn gan Brifysgol Warwick i astudio Seiberddiogelwch, un o raglenni gradd mwyaf cystadleuol ac arloesol y DU.

Mae’r myfyriwr 18 oed newydd gwblhau Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg, Economeg, Astudiaethau Busnes, a Bagloriaeth Cymru, ac mae’n gobeithio canlyn gyrfa mewn gweithrediadau seiber, gan ennill profiad mewn profion treiddiad neu dîmio coch cyn symud i faes ymgynghori.

Wrth sôn am ei amser yn y coleg, dywedodd Alex: “Dwi’n hynod ddiolchgar fy mod i wedi dewis Coleg Cambria ar gyfer fy Safon Uwch. Mae’r addysgu wedi bod yn rhagorol, ond yr hyn sy’n sefyll allan yw gymaint mwy mae’r coleg yn ei gynnig y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.”

Manteisiodd Alex yn llawn ar gyfleoedd cyfoethogi Cambria, gan gynnwys Clwb Uchelgeisiau Rhyd-grawnt, sy’n cefnogi myfyrwyr â’u bryd ar fynd i brifysgolion Grŵp Russell.

“Rhoddodd hynny fantais wirioneddol i mi o ran paratoi ar gyfer ceisiadau prifysgol. Mae’r coleg hefyd yn darparu cefnogaeth ehangach anhygoel, o wasanaethau iechyd meddwl a llesiant i gyfleoedd menter, mentrau elusennol, a’r rhyddid i greu eich clybiau eich hun,” meddai.

Yn ddysgwr angerddol ac yn aelod gweithgar o fywyd coleg, mae Alex hefyd wedi cymryd rhan mewn teithiau’n ymwneud â phynciau, a phob un ohonynt yn ychwanegu at ei brofiad addysgol.

Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, mae gan Alex wregys gwyrdd mewn jiwdo, yn hyfforddi gyda’r Katana Judo Club, gan barhau i gynnal cydbwysedd cryf rhwng gwaith academaidd a datblygiad personol.

Ychwanegodd: “Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr fyddai ymgysylltu go iawn gyda’ch darlithwyr, manteisio ar bob cyfle y gallwch, peidio ag ofni gwneud camgymeriadau, a gwneud amser ar gyfer bywyd hamdden hefyd.”

Canmolodd Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Dosbarth Iâl gyflawniadau Alex gan ddweud: “Mae Alex wedi bod yn fyfyriwr ymroddedig, chwilfrydig, a brwdfrydig drwy gydol ei amser gyda ni. Mae ei gynnig gan Warwick yn gwbl haeddiannol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd ei gyflawni nesaf.”

Mae Coleg Cambria Iâl yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr Safon Uwch ledled y rhanbarth, gan ddarparu amgylchedd cefnogol, uchelgeisiol gydag ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu’n academaidd a phersonol.

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am astudio Safon Uwch yng Ngholeg Cambria. Fel arall, anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007 neu defnyddiwch yr adnodd Sgwrsiwch rŵan! | Cymorth i Gwsmeriaid ar y wefan.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost