Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Former Learner Matthew Barnes who Landed Prominent Role at London Think Tank photo for news story

Astudiodd Matthew Barnes, sy’n wreiddiol o’r Fflint ac sydd bellach yn byw yn y ddinas, Safon Uwch mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Astudiaethau’r Cyfryngau, Saesneg Iaith, a Bagloriaeth Cymru yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy’r coleg.

Mae’r bachgen 23 oed wedi mynd ymlaen i gyflawni llwyddiant academaidd a phroffesiynol, gan raddio’n ddiweddar o Brifysgol Sheffield gyda gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, a BA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth.

Yn ystod ei astudiaethau ôl-raddedig, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth Dan Walker i Matthew ac enillodd y wobr am y Perfformiad Cyffredinol Gorau yn ei raglen MA.

Bellach yn gweithio fel swyddog cyfryngau a chyfathrebu, dechreuodd ei daith i galon gwleidyddiaeth y DU wrth astudio yng Ngholeg Cambria, ac mae’n rhoi clod i hyn am roi’r hyder a’r annibyniaeth iddo archwilio ei ddiddordebau.

“Roedd fy amser yn Cambria yn wych,” meddai.

“O’r diwrnod cyntaf, fe ges i fy nhrin fel oedolyn a chael cefnogaeth gan diwtoriaid gwych a wnaeth fy annog i wthio fy hun.

“Roedd astudio Gwleidyddiaeth Safon Uwch heb unrhyw gefndir yn her, ond fe agorodd y drws i’r yrfa dwi ynddi rŵan – gan weithio ochr yn ochr ag Aelodau Seneddol, cyfoedion a newyddiadurwyr yn San Steffan.”

Cwblhaodd Matthew ei Wobr Aur Dug Caeredin hefyd tra yn y coleg a mynegodd ei werthfawrogiad i Jo Jones, ei diwtor Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, am ei chefnogaeth barhaus.

Wrth longyfarch Matthew ar ei gyflawniadau, dywedodd Mim Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy a Phennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Academaidd: “Rydyn ni’n hynod falch o Matthew a phopeth mae o wedi’i gyflawni mor gynnar yn ei yrfa.

“Mae bob amser yn ysbrydoledig gweld ein cyn-fyfyrwyr yn ffynnu mewn meysydd mor gystadleuol a dylanwadol. Rydyn ni’n dymuno llwyddiant parhaus i Matthew yn San Steffan a thu hwnt.”

Mae cyngor Matthew i fyfyrwyr presennol yn syml: “Cofiwch ymddiried yn eich greddf, dilynwch eich diddordebau, a pheidiwch byth â thanamcangyfrif ble gall angerdd a dyfalbarhad fynd â chi.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am astudio cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Cambria. Fel arall, anfonwch e-bost at derbyniadau@cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007 neu defnyddiwch y cyfleuster Sgwrs Fyw! | Cymorth i Gwsmeriaid Coleg Cambria ar y wefan.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost