Wedi ei fagu ym Mhowys, aeth y sinematograffydd nodedig ymlaen i astudio ar gyfer Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Astudiaethau Clyweledol yn NEWI Cartrefle yn Wrecsam – Coleg Cambria erbyn hyn – ac mae wedi diolch i’r darlithwyr a’r cydweithwyr a chwaraeodd ran yn ei lwyddiant.
Ychydig wythnosau yn ôl, derbyniodd Lol Wobr yr Academi am y ddrama gyfnod epig The Brutalist, ar ôl ennill BAFTA ac anrhydeddau gan Gymdeithas Sinematograffwyr Prydain cyn hynny am ei waith ar y ffilm.
Hwn oedd y trydydd tro iddi weithio gyda’r cyfarwyddwr Brady Corbet – ac mae pedwerydd cydweithrediad yn yr arfaeth – ond am y tro mae’n mwynhau’r don o gynhesrwydd a chanmoliaeth a ddaw yn sgil buddugoliaeth ar y llwyfan mwyaf un.
“Astudiais yn Wrecsam am un flwyddyn yn unig, a hynny amser maith yn ôl, ond mae gen i lawer o atgofion melys,” meddai Lol.
“Fe wnes i’r cwrs sylfaen ac yna gweithio’r haf hwnnw fel cynorthwyydd camera ar ffilm o’r enw The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain yng Nghymru cyn symud ymlaen i Brifysgol Northumbria a gwneud ffilmiau byr yn ddiweddarach.
“Er hynny, fy ffilm nodwedd gyntaf fel sinematograffydd oedd Ballast yn 2008, ac enillais wobr am honno yng Ngŵyl Ffilm Sundance. Ar ôl hynny roeddwn i ar fy ffordd.”
Ychwanegodd: “Byddai’n hyfryd dychwelyd adref un diwrnod a gwneud rhywbeth yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, mae’n rhan hardd o’r byd a byddai ffilmio yno yn wych.”
Seren The Brutalist yw Adrien Brody, a enillodd Wobr yr Academi am Actor Gorau am yr eilwaith am ei bortread o bensaer Iddewig Hwngaraidd a oroesodd yr Holocost a dianc o Ewrop ar ôl y rhyfel i’r Unol Daleithiau, lle mae’n stryffaglu i gyflawni’r Freuddwyd Americanaidd nes i gleient cyfoethog newid ei fywyd.
Canmolwyd Lol am saethu’r darn ar VistaVision – y ffilm nodwedd Saesneg gyntaf i wneud hynny ers dechrau’r chwedegau – ac mae wrth ei fodd fod hynny wedi cael derbyniad mor dda gan yr Academi.
“Mae wedi bod yn wych, dechreuodd yr heip y llynedd, ac rydw i mor hapus a diolchgar o dderbyn y gwobrau hyn, mae wedi bod yn eitha’ rhyfeddol,” meddai.
“Mae yna lawer o fwrlwm wedi bod, ond yn rhyfedd ddigon cafodd y ddwy ffilm nesaf i mi eu saethu eu cwblhau a’u rhyddhau cyn yr Oscars, felly efallai nad ydyn nhw beth mae pobl yn ei ddisgwyl ar ôl ennill y wobr.
“Ond rwy’n darllen sgriptiau gwych gyda gwneuthurwyr ffilmiau gwych, a byddaf yn gweithio ar ffilm nesa’ Brady felly mae’n gyfnod cyffrous iawn, mae mor uchelgeisiol ag erioed felly rwy’n edrych ymlaen at hynny.”
Nid dyma oedd cysylltiad cyntaf Lol â ffilm arobryn; mae ganddo lawer o gredydau clodwiw i’w enw ac mae proffil ohono yn The Playlist yn edrych ar ei yrfa anhygoel yn gwneud ffilmiau a sut y mae’n “hawlio’i lain fel un o’r goreuon yn y byd”.
Ymhlith y teitlau ffilm a theledu y mae wedi gweithio arnynt mae Mandela: Long Walk to Freedom, Four Lions, White Noise, Black Mirror, Vox Lux, The Childhood of a Leader, One Night in Turin, a Shadow Kingdom: The Early Songs of Bob Dylan.
Felly, a oes gan Lol unrhyw gyngor doeth i fyfyrwyr Coleg Cambria, ac egin wneuthurwyr ffilm yng Nghymru a thu hwnt?
“Mewn ffordd mae’n debyg ei fod yn fyd haws erbyn hyn, oherwydd pan ddechreuais i roedd yn ddrud iawn a doedd ‘na ddim gwneud ffilmiau digidol mewn gwirionedd, mae’r dechnoleg yn fwy hygyrch ac yn llai elitaidd heddiw,” meddai.
“Mae’n debyg mai’r peth gorau’r gallen nhw ei wneud fyddai jest mynd amdani, credu ynddyn nhw eu hunain, bwrw ‘mlaen a gweithio’n galed.
“Dydi ddim yn hawdd, ond os na ddewch chi oddi ar y blociau cychwyn am eich bod yn meddwl nad yw’n gallu digwydd yna byddwch chi wedi methu mynd heibio’r rhwystr cyntaf.”