Background Splash

Gan Alex Stockton

UPSstudentvstaff

Fel rhan o’u hastudiaethau Bagloriaeth Cymru a’r Prosiect Cymuned Byd-eang mae dysgwyr Gwasanaethau mewn Lifrai (UPS) yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi ymroi eu hamser i gynnal digwyddiadau buddiol.

Yn eu plith oedd Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU) yn Shotton a’r Ymddiriedolaeth Cancr Pobl Ifanc yn eu Harddegau trwy weithgareddau yn cynnwys her canŵio ‘Brwydr Llyn Bala’, teithiau cerdded noddedig a chystadlaethau pêl-rwyd staff v myfyrwyr.

Dyma nhw hefyd yn casglu hyd at £4000 ar gyfer y Lleng Brydeinig gan fynd â’u cyfrif yn gyffredinol ar gyfer sefydliad Y Lluoedd Arfog i fwy na £35,000 yn y ddegawd diwethaf.

Meddai’r tiwtor Jason Ferguson: “Bob blwyddyn mae’r myfyrwyr a’r staff yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ar gyfer yr elusen a dydi eleni ddim gwahanol.

“Dwi methu diolch digon iddyn nhw; bydd yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu i’r sefydliadau dros y misoedd nesaf ac yn cael effaith mawr ar ein cymuned.”

Ychwanegodd Lucy Roberts sy’n gyd-ddarlithydd Gwasanaethau mewn Lifrai: “Dwi’n eithriadol o falch o’n myfyrwyr anhygoel a’n staff ymroddgar am eu hymdrechion eithriadol mewn codi miloedd o bunnau ar gyfer achosion da yn lleol.

Trwy ystod eang o weithgareddau codi arian creadigol a mentrus maen nhw wedi dangos nid yn unig haelioni ond hefyd ysbryd cymunedol a thosturi.

“Mae eu penderfyniad, gwaith tîm ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth yn hollol ysbrydoledig. Mae pob punt sy’n cael ei godi yn brawf o’u gwaith caled a’u anhunanoldeb, a’r effaith gadarnhaol y maen nhw wedi’i gael ar fywydau eraill yn rhywbeth y gallwn oll ymfalchïo ynddo.

Mae’r cyrhaeddiad hwn yn adlewyrchu’r gorau o bwy ydyn ni fel coleg.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost