Roedd Dyfan Roberts sy’n fyfyriwr Lefel 3 Chwaraeon yng Ngholeg Cambria Iâl yn ddyfarnwr cynorthwyol ar gyfer gêm bêl-droed o dan 18 oed rhwng Cymru a’r Alban yng nghystadleuaeth Tarian Canmlwyddiant Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru yn Stadiwm Hollingsworth Group Airbus UK ym Mrychdyn.
Yn ymuno â Dyfan oedd cyn-ddysgwyr Chwaraeon Cambria, Levi Roberts a ddyfarnodd gêm gyfartal 1-1 a’r dyfarnwr cynorthwyol Jamie Monk.
Dywedodd y darlithydd Aled Ellis bod cael y tri ohonyn nhw’n cynrychioli’r coleg yn “foment fawr”.
“Roedd yn anhygoel gweld y tri ohonyn nhw ar y cae yn dyfarnu’r un gystadleuaeth ieuenctid rhyngwladol ac yn wych i ni gan fod y tri ohonyn nhw wedi bod – neu’n parhau i fod – yn fyfyrwyr o Goleg Cambria” meddai.
“I mi fel Darlithydd Chwaraeon yn y coleg mae’n rhywbeth dwi’n ymfalchio’n fawr ynddo ac mae’n achlysur anferthol i’r tri ohonyn nhw – dwi’n siŵr y byddan nhw’n mynd ymlaen i ddyfarnu sawl gêm arall ar lefel uchel.”
Ychwanegodd Rachel, mam Dyfan: “Fel rhieni rydan ni’n falch iawn o’r hyn y mae o wedi ei gyflawni.”
Mae’r nifer eang o raglenni Chwaraeon yng Ngholeg Cambria sydd hefyd gyda safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi – yn cynnwys Diplomâu Lefel 2 a Lefel 3 mewn Chwaraeon a Lefel A mewn Addysg Gorfforol.
Ymysg y modiwlau mae Datblygu Sgiliau Hyfforddi, Anatomeg a Ffisioleg a Rheolau a Rheoliadau mewn Chwaraeon.
“Mae yna gyfanswm eang o wybodaeth i’w ddysgu a bydd hynny’n datblygu ac adeiladu hyder mewn dysgwyr i’w gwneud nhw eisiau symud ymlaen i weithio yn y sector neu yn achos Dyfan, Levi a Jamie i ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn dyfarnu ar y lefel uchaf o bêl-droed ieuenctid,” meddai Aled.
“Mae’n gyflawniad gwych i’r tri i fod ar lefel o’r fath ac i fod mor ifanc ac mae’n arwydd o’u cyflawniad nhw a’r staff a’r darlithwyr sydd wedi eu helpu nhw o’r dechrau.
Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan Ein Cyrsiau < Coleg Cambria a dilynwch y coleg ar gyfryngau cymdeithasol. Fel arall, anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.