main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

womenwalesfootball

Yn ôl Sean Regan, sy’n ddarlithydd ac yn hyfforddwr yng Ngholeg Cambria, gall darpar fyfyrwyr fanteisio ar gynnydd mewn diddordeb a chyfleoedd i chwarae, hyfforddi a chael addysg o’r radd flaenaf yn y sefydliad yng ngogledd ddwyrain Cymru, sydd wedi’i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain.

Mae Sean – a fu’n rheoli carfan Merched Colegau Cymru mewn cystadleuaeth yn Rhufain yn ddiweddar – yn obeithiol y bydd mwy o ferched yn manteisio ar gyfleusterau penigamp y coleg ac yn elwa ar y cyfle i gynrychioli’r coleg a’u cenedl gartref ac ar y llwyfan rhyngwladol.

“Roedd y twrnamaint rydyn ni newydd ddychwelyd ohono yn Yr Eidal yn brofiad anhygoel i’r garfan gyfan, gan gynnwys tair myfyrwraig o Cambria,” meddai Sean

“Fe gawson nhw wisgo coch Cymru, clywed yr anthem genedlaethol yn cael ei chwarae cyn pob gêm a chwarae yn erbyn gwledydd eraill, felly roedd yn foment falch iawn i bob un ohonon ni.”

Bu chwaraewyr o Golegau Ceredigion, Gŵyr, Tyddewi a’r Cymoedd hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys tîm XI dethol Dan 21 yr Eidal, ochr ranbarthol, Colegau o Loegr a thimau o Wlad Groeg a Chanada.

Ymlith y criw o 26 o hyfforddwyr a chwaraewyr oedd Seren Cashen o TNS, Lily Whitefoot o Wrecsam a Sienna Strapp, sy’n enwebai ar gyfer Myfyriwr Chwaraeon y Flwyddyn BTEC Cambria ac yn aelod o garfan merched Nomads Cei Connah.

Mae Sienna yn un o sawl chwaraewr ifanc sy’n datblygu eu sgiliau ar y cyd ag addysg yng Ngholeg Cambria, ac mae Sean yn hyderus – gyda chynlluniau cyffrous ar y gweill i ddatblygu eu rhaglenni chwaraeon mewn partneriaeth â chlybiau llawr gwlad o fewn y rhanbarth – y bydd eu darpariaeth yn parhau i wella a thyfu.

“Rydyn ni mewn trafodaethau gyda nifer o sefydliadau i feithrin perthnasau newydd a darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant,” meddai Sean.

“Yn ogystal â chynnig academaidd gwych rydyn ni eisiau adeiladu ar ddatblygiad chwaraewyr, fel eu bod nhw’n rhagori ar y cae ac oddi arno.

“Mae’n fater o ‘gwyliwch y gofod’ ond rydyn ni’n ceisio cynnig ôl troed ehangach sy’n cael effaith hirhoedlog i ferched a dynion fel ei gilydd yn y maes yma.

“I unrhyw berson ifanc sydd eisiau astudio wrth ennill cymhwyster, Coleg Cambria yw’r lle i fod – mae’n bendant yn amser cyffrous i ymuno â ni ac rydyn ni’n bositif iawn am yr hyn sydd o’n blaenau.”

Am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf o Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost