Mae Sabrina yn fyfyriwr Cyfathrebu yng Ngholeg Cambria ac wedi cael ei gwobrwyo gyda MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin ac wedi derbyn ‘anrhydedd mawreddog’ yng Nghastell Windsor gan Ei Mawrhydi Tywysog Cymru.
Ar ôl ennill medal aur yng Ngemau Paris llynedd – a llwyddo i dorri record y byd mewn taflu maen – mae’r ferch 27 oed o’r Wyddgrug yn anelu hefyd ar gyfer Gemau 2028 sydd yn cael ei gynnal yn Los Angeles.
Meddai Sabrina sydd wedi cael ei gwobrwyo gyda MBE am ei gwasanaethau i athletau: “Dwi’n falch iawn o gael fy ngwobrwyo gyda MBE ond hefyd mewn sioc gan fy mod i byth wedi dychmygu y byddwn i”n cael un.
“Dim pob athletwr sy’n cael y cyfle ac felly dwi’n teimlo anrhydedd mawr, mae o’n wobr anhygoel.”
Ychwanegodd Sabrina sydd wedi torri’r record byd ei hun gyda thafliad o 15.51m ym Mhencampwriaethau Dan Do Prydain: “Fy mlaenoriaeth nesaf yn fy ngyrfa yw cyrraedd Gemau Paralympaidd LA ac amddiffyn fy nheitl.
“Mae Pencampwriaethau’r Byd yn India hwyrach eleni hefyd ac felly mae hi’n mynd i fod yn gyfnod prysur ond dwi wedi cyffroi ac yn hyfforddi’n selog tuag at yr haf.”
Ymunodd Sabrina â Choleg Cambria fel dysgwyr Lletygarwch cyn symud ymlaen ar y rhaglen Sgiliau ar gyfer Oedolion i wella ei Mathemateg a’i Saesneg.
Cyflawnodd y cymwysterau hynny cyn dechrau astudio Sgiliau Digidol a bellach yn dilyn y cwrs SHC L2 mewn Cyfathrebu ac ar fin ei gwblhau yn y misoedd nesaf.
Mae’r Darlithydd Catherine Abnett yn “hynod o falch” o’i chyraeddiadau gan ddweud: “Mae Sabrina yn anhygoel, ac er gwaethaf cystadlu a hyfforddi dros y byd mae hi bob tro yn cwblhau ei gwaith dosbarth sy’n dangos ei ffocws a pha mor benderfynol ydi hi.
“Dwi wedi bod yn diwtor arni am dair blynedd ac mae rhai o fy nghydweithwyr yn y tîm wedi cael y pleser o’i dysgu hi ar gyrsiau eraill; ac rydym i gyd yn andros o falch ohoni a’i chyflawniadau y tu mewn a thu allan i’r coleg.”
Ychwanegodd: “O ystyried fod Sabrina wedi ennill medal aur yn y Gemau Paralympaidd ac wedi torri record y byd mae hi wedi cadw ei thraed ar y ddaear ac yn rhyfeddol o ddiymhongar.
“Mae ei chyfoedion yn mwynhau gofyn cwestiynau iddi am ei gwersylloedd hyfforddi a’i phrofiadau yn y byd chwaraeon ac mi fydd y diwrnod y gwnaeth hi aros tan ddiwedd y wers i dynnu ei medal aur allan o’i bag yn ddiwrnod y byddwn i gyd yn ei gofio am amser maith!
“Mae Sabrina yn rhoi 100% i bopeth ac er gwaethaf yr heriau y mae hi’n ei wynebu mae hi’n llwyddo i wneud y cyfan edrych mor hawdd. Mae ganddi ragolwg gwych ar fywyd ac mae’n hyfryd ei gweld hi’n derbyn y gydnabyddiaeth y mae hi’n ei haeddu am ei chyflawniadau chwaraeon rhagorol!