main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Rufus Edwards 
(centre) celebrating the week of a lifetime by passing his A Levels and winning a prestigious music prize.

Mae’r llanc 18 oed o’r Bers, disgybl yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, wedi ennill y Rhuban Glas Offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, Gwynedd eleni.

Daeth y fuddugoliaeth dyddiau’n unig cyn cyflawni graddau A* mewn Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth, ac A mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Bydd Rufus yn mynd i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, er mawr lawenydd i’w ddarlithydd, Tim Heeley.

“Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o daith gerddorol Rufus wrth iddo astudio yng Ngholeg Cambria,” dywedodd.

“Mae’n ddawnus tu hwnt ond mae wedi gweithio’n galed yn gyson ar bob agwedd o’i gerddoriaeth, yn sicr yn ystod ei astudiaethau Lefel A ac yn ôl pob tebyg ers dechrau chwarae.

“Mae’r wobr hon yn yr Eisteddfod yn gwbl haeddiannol ac yn benllanw blynyddoedd o waith caled gan Rufus gyda chefnogaeth ei athro piano John Gough, nifer o gerddorion ac athrawon dosbarth gwahanol ac yn enwedig ei rieni – da iawn, Rufus!”

Dywedodd Rufus: “Dwi’n hapus iawn mod i wedi ennill y Rhuban Glas. Dwi hefyd yn falch iawn gyda fy nghanlyniadau Safon Uwch, ac yn edrych ymlaen at gael dechrau yn y brifysgol ym mis Hydref.

“Hoffwn i ddiolch i fy nhiwtoriaid yn Iâl – Tim, Carys a Mel – am eu cymorth trwy gydol fy amser yn Cambria.”

Ewch i www.cambria.ac.uk gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost