main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae pandemig y Coronafeirws wedi trawsnewid y ffordd y mae’r sector preifat yn gweithredu, gan gynnwys oriau ac amodau gwaith hyblyg, mentrau cynaliadwy, ‘gwyrdd’, a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Ysgol Busnes yn Llaneurgain – sy’n rhan o Goleg Cambria – wedi cynllunio rhaglenni proffesiynol (cyllid yn amodol ar gymhwysedd) mewn partneriaeth â sefydliadau blaenllaw fel IOSH, NEBOSH, y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), CIPD, Prince2, Highfield, a’r ILM (Sefydliad Dysgu a Rheoli).

Yn eu plith mae cymwysterau ar themâu Rheoli Pobl, Dysgu a Datblygu Sefydliadol, Arwain a Rheoli, Rheoli Prosiectau, Sgiliau Mentora Effeithiol, a Marchnata Digidol Proffesiynol, gydag amrywiaeth o opsiynau hyblyg a rhad ac am ddim a ariennir gan grant (yn amodol ar gymhwysedd) fel rhan o’r cynllun Cyfrif Dysgu Personol (PLA).

Dywedodd Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Ymgysylltu â Chyflogwyr: “Er mwyn bodloni gofynion diwydiant yn 2022 a thu hwnt, ac mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y sector preifat a chyhoeddus, rydym wedi cynllunio ystod eang o gyrsiau ar draws amrywiaeth o sectorau.

“Rydym hefyd yn teilwra cymwysterau’n benodol i anghenion cyflogwr, os ydynt am uwchsgilio eu gweithlu ar gyfer DPP, a blaengynllunio, yn sgil yr heriau y mae pob sefydliad wedi’u hwynebu ers dechrau Covid-19.”

Ychwanegodd Jane: “Enghraifft o hyn yw ein rhaglen Lefel 4 a Lefel 5 mewn Rheoli o Bell, i gefnogi perchnogion cwmnïau, uwch arweinwyr a gweithwyr AD sy’n rheoli gweithlu anghysbell neu ‘hybrid’ oherwydd y pandemig.

“I rai mae yna rwystrau o hyd i gyfathrebu rhithwir a cheisio gweithredu strategaethau, delio â materion AD bob dydd a mesur cynhyrchiant – mae wedi bod yn anodd iawn iddynt.

“Dyna pam, o ystyried y galw a’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan wahanol ddiwydiannau, i ni benderfynu creu rhaglen bwrpasol a fydd yn ymdrin â llawer o’r themâu hyn, y gellir eu haddasu ar gyfer amrywiaeth o feysydd.”

Mae cyfres newydd ac amserol arall o gyrsiau yn ymdrin ag ymwybyddiaeth iechyd meddwl, dan arweiniad y darlithydd Iechyd Meddwl a Llesiant Caroline McDermott.

Meddai: “Rydym wedi cael diddordeb o Ogledd Cymru a thu hwnt o ystyried y cynnwys arloesol ac uwch y byddwn yn ei ddarparu.

“Mae ein partneriaeth gyda’r cyrff dyfarnu Highfield, IOSH a NEBOSH yn PGC arbennig ac yn denu rheolwyr sydd eisiau cofrestru ddydd neu nos, a gallwn ymdopi â hyn o ystyried y galw.

“Ac mae’r pynciau ar draws newidiadau yn y gweithle i sicrhau llesiant gweithwyr a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl penodol.”

Ychwanegodd Jane: “Beth bynnag yw’r pwnc, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â diwydiant i sicrhau bod ein dysgwyr ar flaen y gad o ran datblygiadau yn eu sector.

“Gyda llawer o’r cyrsiau hyn yn cael eu cefnogi gan arian grant mae’n rhoi tawelwch meddwl i weithwyr a chyflogwyr wrth iddynt edrych i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost atemployers@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 006.

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

I ddarganfod a ydych chi’n gymwys ar gyfer cyrsiau PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a rhestr lawn o’r rhai sydd ar gael trwy gyllid Llywodraeth Cymru, anfonwch e-bost at pla@cambria.ac.uk .

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost