main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

CultureCollective3

Yn sgil hyn mae Culture Collective yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau yng Ngholeg Cambria yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Gyda chefnogaeth Judith Alexander, y Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, a Tim Feak y Prif Gaplan, trefnodd y dysgwyr gyfres o weithgareddau ym Mwyty Iâl yn y coleg, gan ddod â phobl at ei gilydd o wahanol ffydd a chefndiroedd a hyrwyddo eu hetifeddiaeth, eu hanes a’u traddodiadau.

Aeth mwy na 140 o bobl i’r un cyntaf lle’r oedd gwahanol fwyd a diod o ledled y byd yn cael eu harddangos, yn ogystal â cherddoriaeth, dawns, llenyddiaeth, celf a rhagor.

“Gwnaethom wahodd myfyrwyr a sefydliadau lleol i ddod at ei gilydd i ddathlu’r gymuned o ddiwylliannau amrywiol yma yn Wrecsam,” meddai Judith.

“Prosiect un tro oedd hwn i ddechrau a arweiniodd at raglen o ddigwyddiadau, a rŵan mae’r dysgwyr yn bwriadu gwneud hyd yn oed mwy yn y flwyddyn academaidd nesaf.

“Roedden nhw a phawb a ddaeth am dro yn cydnabod buddion cydfodoli, amrywiaeth, derbynioldeb a mwynhau traddodiadau a hanes ein gilydd – roedd wir yn anhygoel ac yn teimlo fel dechrau rhywbeth arbennig iawn.”

Dywedodd hefyd: “Roedd hefyd yn gyfle i ni drio amrywiaeth anhygoel o ddanteithion, a oedd yn hynod o flasus ac yn newydd i lawer ohonon ni.”

Mae Marina Kogan, model rôl Syniadau Mawr Cymru, sy’n hanu o Rwsia, a mentoriaid eraill wedi bod wrth law i rannu eu teithiau entrepreneuraidd. Yn ei hachos hi, sut y gwnaeth hi lansio busnes hyfforddi llwyddiannus yng Ngogledd Cymru.

Gyda chefnogaeth Grant Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Wrecsam a ffrydiau ariannu eraill, dywedodd Tim y bydd y rhain, a digwyddiadau ysbrydoledig eraill, yn parhau i hyrwyddo undod a rhyngweithio.

“Bydd y 12 mis nesaf yn gweld Culture Collective yn croesawu rhagor o genhedloedd, cymunedau ac ymgyrchoedd,” meddai.

“Yn ogystal â digwyddiadau aml-ffydd byddwn yn edrych ar fwyd a diwylliant, yn dathlu ESOL (Saesneg i Siaradwyr Eraill), LHDTC+ a chelfyddydau’r byd a’u heffaith dros y cenedlaethau diwethaf, y presennol ac yn y dyfodol.

“Rydyn ni wedi bod mor falch o weld ymateb mor anhygoel mewn cyfnod lle mae gwirioneddol angen i’r byd ddod at ei gilydd, mewn cariad a derbynioldeb, a all ond arwain at ei wneud yn lle gwell.

“Mae’n wych bod ein dysgwyr ar flaen y gad gyda hynny.”

Am restr lawn o’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf, anfonwch e-bost at judith.alexander@cambria.ac.uk neu tim.feak@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost