main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

RGCcambria2

Mae dysgwyr Coleg Cambria Lugh Doyle, Mathew Pryce a Louis Williams wedi bod yn hyfforddi a chwarae fel aelodau o sgwad dan 18 Rygbi Gogledd Cymru (RGC).

Ar hyn o bryd mae’r sgwad ar ganol cystadleuaeth Graddau Oedran Rhanbarthol URC, gan chwarae cyfres o wyth gêm yn erbyn Academïau Rhanbarthol Cymru (Clwb Rygbi Dreigiau, Rygbi Caerdydd, Gweilch, a Scarlets).

Mae RGC – Rhanbarth Datblygu Rygbi Gogledd Cymru – yn gweithio gyda sefydliadau academaidd ar hyd Gogledd Cymru a’r Canolbarth i sicrhau bod chwaraewyr ifanc yn cael dyfodol academaidd, galwedigaethol a chwaraeon llewyrchus.

Mae’r tri – sy’n chwarae i glwb rygbi Yr Wyddgrug hefyd – yn cydbwyso eu hastudiaethau ar safle Glannau Dyfrdwy’r coleg gyda hyfforddi a chystadlu ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, ac maent yn mwynhau bob eiliad.

Bydd prop blaen Lugh, sy’n 17 oed, o Fflint, a oedd yn gyn myfyriwr yn ysgol uwchradd y dref, yn cwblhau cymwysterau Safon Uwch mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg yn yr haf.

Dywedodd: “Mae ceisio ffitio popeth i mewn yn her, ond rydyn ni’n angerddol am rygbi ac yn gobeithio parhau i chwarae yn y brifysgol.

“Mae’r hyfforddwyr a’r darlithwyr yn gymorth mawr felly rydyn ni’n gobeithio cyflawni llawer o bethau da ar y cae ac oddi arno”.

Roedd Mathew yn dweud hyn hefyd, ac mae’n paratoi i sefyll arholiadau mewn Saesneg Iaith, Addysg Gorfforol, a Mathemateg yn yr haf.

Mae’n gobeithio parhau gyda’i astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, wrth hyfforddi a chwarae fel aelod o’i raglen perfformiad rygbi, sy’n gweithredu mewn partneriaeth â RGC.

Mae Louis yn astudio Daearyddiaeth, Seicoleg, ac Addysg Gorfforol yn Cambria.

“Rydyn ni wedi bod yn rhan o lwybr RGC ers y sgwad dan 15 ac rydyn ni wedi dod trwy’r graddau oedran gyda’n gilydd, felly mae parhau i hyfforddi a chwarae ar y lefel yma yn yr un sgwad yn arbennig,” meddai Louis, sydd wedi cynrychioli sgwad dan 18 Cymru ar daith i’r Alban yn ystod yr haf y llynedd, mae’n chwarae safle canolwr ac yn gyn myfyriwr yn Ysgol Uwchradd Argoed, Mynydd Isa.

Mae cyn myfyriwr Ysgol Alun yr Wyddgrug, Mathew, sy’n 17 oed ac yn chwarae prop pen tynn, ychwanegodd: “Rydyn ni wedi cael dechrau da i’r tymor ac yn gobeithio bydd hynny yn parhau wrth i ni wynebu cyfnod prysur gydag arholiadau, chwarae’n rheolaidd i glwb rygbi Yr Wyddgrug ac RGC, a gyda’n harholiadau yn yr haf – bydd yn gyfnod andros o brysur heb os mi fydd yn werth chweil.”

Mae Prif Hyfforddwr y Llwybr Saul Nelson yn dathlu 12 mis yn hyfforddi’r sgwad o dan 18 oed, dywedodd: “Mae’r tri yn angerddol iawn, yn ddawnus ac yn rhan bwysig o RGC, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

“Does dim dwywaith y byddan nhw’n cael effaith sylweddol ar ein tymor ac RGC yn y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am RGC, ewch i’r wefan: www.northwalesrugby.wales.

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost